THE latest community news from Llangybi
Merched y Wawr y Dderi
TREULIWYD prynhawn difyr, diddorol a chroesawus iawn yn Winllan Llaethlliw yng Nghiliau Aeron ar brynhawn Mercher, 13 Medi.
Cawsom brynhawn hyfryd yng nghwmni Sue Evans a roddodd hanes y fenter o gynhyrchu gwin i ni drwy gyfrwng fideo.
Hi a’i gwr Richard a’u mab Jac sydd wedi adeiladu’r busnes llewyrchus yma o’r dechreuad cyntaf.
Mae’n anodd credu fod yna winllan mor helaeth ac yn ein hardal ni â chymaint o winwyddau - miloedd ohonynt!
Gwaith caled iawn yw cynhyrchu potelaid o win ac mae eisiau amynedd a thywydd ffafriol er mwyn i’r planhigyn dyfu ac aeddfedu.
Maent wedi llwyddo yn aruthrol ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu cynnyrch. Roedd pawb wedi mwynhau a bu blasu ar dri math o win.
Croesawyd un aelod newydd i’r gangen, sef Myra, gan y llywydd Gwyneth Jones a hi fu’n diolch hefyd am y ddarpariaeth a fu ar ein cyfer ac i Ann Davies am ddatblygu’r rhaglen.
Rhoddwyd y raffl gan Mair Spate ac fe’i henillwyd gan Deborah a Myra.
Bydd y cyfarfod nesaf yn Ysgol y Dderi ar 18 Hydref, am 7yh.
Disgwylir Geraint Morgan i’n hannerch.
Croeso i aelodau newydd.
Hamdden
MEMBERS should meet at Ysgol y Dderi on Friday, 6 October, at 2pm.
The guest speaker will be Eirwen James, who will outline the history of Derry Ormond Estate.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.