THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

DdYDD Sul, 20 Awst, cafodd yr aelodau eu gwibdaith flynyddol ac eleni, i gychwyn, aethwyd i’r ‘Ysgwrn’, sef cartref Hedd Wyn, Trawsfynydd a mynd ymlaen wedyn am ginio ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog.

Yn y prynhawn, ymlaen ac ymuno â gwasanaeth yng Nghapel Moreia, Trawsfynydd a mwynhau pregeth gan y Parch Carwyn Siddal, gweinidog Llanuwchllyn, yn wreiddiol o Ynys Môn.

Ddydd Sul, 27 Awst, dim ond un cyfarfod gafwyd a hwnnw am 5yh gyda’r gweinidog, y Parch Glenys Jones yn pregethu â’i thestun oedd ‘Negeseuon ola’ yr Efengylau, addewid, cenhadaeth, addoliad ac amcan’.

Beti Wyn Jones oedd wrth yr organ.

Cyfeillion Plas Hafan

CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan ar nos Lun, 21 Awst.

Talwyd diolch i Delyth a’i chydweithwyr am drefnu prynhawn o adloniant a’r byrddau gwerthu yn y Ganolfan yn ddiweddar.

Aethwyd ymlaen i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer y bore coffi a gynhaliwyd yn festri Capel Penlan, Pwllheli am 10.30yb, ddydd Mercher, 6 Medi.

Penderfynwyd i ofyn i Sioned Roberts ddod i ddiddanu’r preswylwyr eto adeg y Nadolig, felly bydd y parti Nadolig ymlaen am 10.30yb, ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr.

Bydd cyfarfod nesaf y Cyfeillion y noson cynt, 4 Rhagfyr am 7.30yh ym Mhlas Hafan.

Prynhawn Difyr

CYNHALIWYD prynhawn difyr yng Nghanolfan Nefyn yn ddiweddar i godi arian tuag at gronfa Cyfeillion Plas Hafan.

Trefnwyd y digwyddiad gan staff y cartref ac yr oedd rafflau, tombola a stondin gacennau ar gael, hefyd paned a chacen cyn eistedd yn ôl i wrando ar Sioned Roberts yn ein diddanu gyda chaneuon amrywiol.

Diolchir i bawb a fu mor garedig yn rhoi gwobrau raffl a tombola ac i bawb a gefnogodd yr achlysur.

Gwnaethwyd elw o tua £400.

Merched y Wawr

BYDD tymor newydd Merched y Wawr Nefyn yn cychwyn am 7yh nos Wener, 8 Medi yng Ngwesty Nanhoron pan fydd cyfle i ymaelodi a chwarae gemau a sgwrsio.

Byddwn yn cyfarfod yr un amser yr ail nos Wener o bob mis, gyda rhaglen amrywiol wedi ei threfnu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]