THE latest community news from Nefyn

Cyfeillion Plas Hafan

CYNHALIODD y Cyfeillion fore coffi yn festri Capel Penlan, Pwllheli, fore Mercher, 6 Medi, a gwnaethpwyd elw o oddeutu £350.

Mae’r Cyfeillion yn ddiolchgar i swyddogion y capel am gael defnyddio’r festri, yn enwedig y rhai ohonynt fu’n helpu yn y gegin.

Diolchir i bawb a gyfrannodd nwyddau ac arian tuag at yr achlysur, yn cynnwys cogyddes Plas Hafan am y cacennau bendigedig.

Gwerthfawrogir yn fawr y gefnogaeth gafwyd gan bawb a fynychodd.

Clinig

BYDD clinig brechiad ffliw i gleifion practis Ty Doctor neu Meddygfa Aelhaearn, Llanaelhaearn, yn cael ei gynnal yn Ty Doctor ar ddydd Gwener, 29 Medi, rhwng 9yb a 3yp.

Os ydych dros 65 mlwydd oed, neu o dan 65 ac yn diodded o afiechyd cronig, yn feichiog, neu yn brif ofalwr, yna mae ganddoch hawl i frechiad ffliw am ddim.

Llyn Maritime Musuem

DURING September and October, the museum will be holding an exhibition telling the story of the training ship Cleo.

The museum is now open from Wednesday to Sunday, 10.30am to 4pm. Entry is free and the shop and café are open.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]