THE latest community news from Nefyn

Plas Hafan

HOFFAI rheolwr a staff Plas Hafan ddiolch i bawb a gyfranodd tuag at gwobrau raffl ac am ein cefnogi ar noson bingo a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr.

Diolch i Dilys, Beti a Jill am ein cynorthwyo’n wythnosol i gynnal y siop fach.

Capel Soar

AR 3 Rhagfyr, Sul cyntaf yr Adfent, daeth Beryl, Brenda, Paula, Sandra a Sian i gynnal oedfa am 10yb.

Cafwyd darlleniadau a hanes y Nadolig wedi ei gyflwyno mewn ffordd hawdd i wrando.

Gwerthfawrogwyd gwmni y plant oedd yn bresennol.

Am 5yh y Parch Euros Wyn Jones, Llangefni oedd yn cadw cwmni i ni. Cafwyd hanes William Salesbury a’r adnod am Ffydd, Gobaith a Chariad.

Roedd y Parch Hari Parry, Caernafon i fod efo ni ar 10 Rhagfyr, ond ataliwyd yr oedfaon oherwydd yr eira a’r rhew.

Ar 17 Rhagfyr, am 10yb cafwyd cwmni y Parch Olwen Williams, Tudweiliog. Cafwyd hanes y Geni â’r Angylion yn gyntaf i gyhoeddi y newyddion da.

Am 5yh cafwyd Drama y Geni gan blant yr Ysgol Sul, roedd y ddrama wedi’i hysgrifennu gan y plant hyn.

Ar 19 Rhagfyr, cafwyd carolau, adroddiadau a darlleniadau wedi eu paratoi gan Janet, â phawb yn cymryd rhan.

Am 10yb ar 24 Rhagfyr, cafwyd hoff ddarnau Nadoligaidd rhai o’r aelodau sef: Eirwen, Gwen, Janet, Jannette a Vera.

Gyda’r nos daeth y Parch Iwan Ll Jones, Porthmadog i drafod Dyfodiad Crist “Y Gair yn Gnawd”.

Gwasanaeth am 10yb yn unig oedd ar 31 Rhagfyr, gyda’n gweinidog, y Parch Glenys Jones.

Y testun dan sylw Glenys oedd “Y Doethion a’u anrhegion”.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]