THE latest community news from Nefyn
Merched y Wawr
CAFODD aelodau Merched y Wawr Nefyn wahoddiad i ymuno â changen Morfa Nefyn i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi a chafwyd noson ddifyr iawn gyda hwy.
Bu gwledd o swper wedi’i baratoi gan Dylan a Nia, Caffi Ni, wedyn cawsom gwmni Ann Pierce Jones, Hendre Cennin yn adrodd ei hanes. Diolchodd Margaret ar ran Nefyn. Gofynnir i aelodau Nefyn adael i Dilys wybod cynta posibl os ydynt yn bwriadu dod ar fws yr arfordir i Blas yn Rhiw ddydd Gwener, 13 Ebrill ac os ydynt am roi eu henwau i fynd gyda changen Morfa ar wibdaith i’r Ysgwrn ddydd Sadwrn, 12 Mai.
Noson Twmpath Ddawns
CYNHELIR Noson Twmpath Ddawns yng nghwmni ‘Band Arall’ yn y Ganolfan, nos Sadwrn, 7 Ebrill am 7yh.
Cyfeillion Plas Hafan
CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan yn ddiweddar o dan gadeiryddiaeth Terry Hughes.
Cafwyd adroddiad ariannol gan y trysorydd Robyn Jones a diolchwyd iddo ac i Alun Jones am eu harolygu.
Cytunodd Terry i fod yn gadeirydd, Robyn yn drysorydd a Dilys yn ysgrifennydd am y flwyddyn i ddod. Croesawyd y newydd fod un o unedau’r cartref am gael ei ehangu ar gyfer uned i gleifion gyda dementia. Fe obeithir bydd y gwaith wedi gorffen erbyn ddiwedd mis Mehefin. Yr oedd pawb wedi mwynhau diwrnod i’r brenin yn ddiweddar er mwyn codi calon y rhai oedd wedi dioddef anhwylderau amrywiol ar ôl y Nadolig. Cafwyd bingo, canu a the prynhawn bendigedig. Mae’r trigolion wedi mwynhau amrywiol weithgareddau fel coginio a chwarae gemau ac edrychir ymlaen at gael cwmni Sioned Roberts eto fore Mawrth, 10 Ebrill.
Penderfynodd y Cyfeillion drefnu bore coffi ym Mhwllheli ym mis Medi. Pasiwyd i Dilys brynu cennin pedr ar gyfer Dydd Gwyl Dewi a Janet i drefnu cardiau ar gyfer y Pasg. Cyfarfod nesaf am 7.30yh nos Lun, 9 Gorffennaf.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.