THE latest community news from New Quay
Oedfaon
CROESO cynnes i’r Oedfa Undebol yng Nghapel Brynrhiwgaled ar ddydd Sul, 23 Mehefin am 2yp dan arweiniad y Parch John Gwilym Jones, Peniel.
Bydd aelodau Cylch y Priordy Caerfyrddin yn ymuno yn yr oedfa.
Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter Cyfundeb Ceredigion yng Nghapel Pencae yn ddiweddar. Yn dilyn y Gynhadledd, mwynhawyd pryd blasus wedi ei baratoi gan aelodau Eglwys Pencae. Braf oedd cael croesawu llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parch Gill Hailey Harries i’n hannerch yng nghyfarfod yr hwyr.
Diolchwyd i aelodau Pencae am eu croeso twymgalon gan gadeirydd y Cyfundeb, y Parch Andrew Lenny.
Cyhoeddwyd yn ystod Cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr a gynhaliwyd yn Rhydymain bod cyfanswm Apêl Madagascar wedi cyrraedd £100,000.
Diolch i’r eglwysi sydd wedi cyfrannu, ond os nad ydych wedi cyfrannu eto, bydd yr apêl ar agor tan ddiwedd y flwyddyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.