THE latest community news from Penmorfa

Cylch Trafod yr Alltwen

CYNHELIR Noson Agoriadol y Cylch Trafod ar nos Fercher, 4 Hydref, yn y Neuadd Goffa am 7.30yh.

Ar y noson bydd Steffan ab Owain, Blaenau Ffestiniog yn traddodi darlith ar y testun ‘Pen-blwydd mwnci, gogyrogo a char gwyllt’.

Mae’r ddarlith ddifyr hon yn cwmpasu tipyn o bopeth am eiriau llafar gwlad ynghyd â stori am ambell ddywediad.

Mae rhaglen ddiddorol ac amrywiol wedi ei pharatoi unwaith yn rhagor, felly, dewch yn llu i fwynhau’r arlwy.

Croeso cynnes i bawb a chroeso arbennig i aelodau newydd o bob oed a diddordeb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]