THE latest community news from Penrhyncoch

Horeb

Cynhelir oedfa gymun dan ofal y Parch Judith Morris ddydd Sul, 6 Mai, am 2.30yp. Croeso cynnes i bawb.

Darlith

Traddodir darlith gan y Prifardd Mererid Hopwood yn festri Horeb nos Iau, 10 Mai am 7.30yh. Trefnir yr achlysur gan Bwyllgor Cofio a Myfyrio y Tair Gofalaeth; mynediad am ddim drwy docyn. Darperir paned a bydd casgliad yn ystod y noson tuag at waith Cymdeithas y Cymod a Chronfa Waldo.

Os am docyn cysyllter â Llinos Dafis ar 01970 828262, Llinos Evans, 01970 871615 neu Ceris Gruffudd, 01970 828017.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]