THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr Deudraeth
Tydi amser yn hedfan, does fawr o amser ers y Nadolig llynedd a dyma ni pawb yn paratoi am yr ?yl eleni.
Cynhaliwyd Ffair Nadolig yn y Neuadd dydd Sadwrn, 24 Tachwedd ac ar stondin Merched y Wawr llwyddwyd i godi dros £60 tuag at ariannu plentyn i aros yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglanllyn flwyddyn nesaf.
Deudydd yn ddiweddarach, cafwyd cyfarfod mis Tachwedd.
‘Noson yng nghwmni’r amryddawn Alun Ffred’ oedd wedi’i hysbysebu ar y rhaglen, gyda pawb yn gobeithio cael ychydig o hanes C’mon Midffîld ac nid hanes ei yrfa fel Aelod o’r Cynulliad.
Mae pawb wedi laru ar Brexit a gwleidyddiaeth r?an. Felly, pan ddeallwyd mai C’mon Midffîld oedd pwnc ei sgwrs ni siomwyd yr aelodau.
Cyflwynodd ei hun fel brawd bach i Dafydd Iwan, ond mae un peth yn sicr mae o ysgwydd yn ysgwydd efo’i frawd lle mae talent yn gwestiwn.
Mae’n anodd credu fod oddeutu 30 mlynedd ers i’r rhaglenni ymddangos ar y teledu, a chofiwch fod yna dair cyfres wedi bod ar y radio cyn i Ffilmiau’r Nant ei drosglwyddo i’r sgrîn fach.
Cafwyd gefndir y comedi orau fuodd erioed ar S4C pan ddisgrifiodd castio’r actorion, lleoli’r gemau ffwtbol heb anghofio wrth gwrs chwilio am y t? tafarn ‘Y Bull’ delfrydol.
Mae dawn Alun Ffred a Mei Jones yn adnabyddus i sawl cenhedlaeth bellach.
Hyd heddiw mae’r cof sy gen i o weld fy wyrion a’r wyresau yn chwerthin yn drysor.
Ac fel pob darlleniad llwyddiannus ar y teledu roedd ‘na droeon trwstan ynghlwm efo’r cynhyrchu.
Roedd hanes ffilmio tîm Bryn Coch yn mynd i’r Eidal yn stori werth i’w hail adrodd. Asiffeta – Anhygoel ia – Harri paid a chwarae efo hwnna – Y penci gwirion – No na nefar. Ia noson ardderchog iawn unwaith eto.
Diolchwyd i’r merched am weini paned cyn ei throi hi am adra. Bydd yn cyfarfod yn gynharach ym mis Rhagfyr i fwynhau cinio Nadolig yng Ngwesty’r Heliwr ym Mhorthmadog.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.