THE latest community news from Penrhyndeudraeth

MyW Deudraeth

CANGEN fywiog sydd yn mwynhau gwledda, teithio a chymdeithasu ag yn sicr yn mwynhau hwyl,’ yw disgrifiad Helen Ellis o Gangen Deudraeth ar y dudalen gyntaf o’r gyfrol Deudraeth Drwy’r Degawdau.

Fe gyhoeddwyd y gyfrol i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r gangen a diolch i Helen Ellis am gasglu’r holl wybodaeth. Trysor i’r aelodau gadw a’i basio ymlaen i’r genhedlaeth nesa. Mae disgrifiad Ann Jones (gynt o Groesor a Waunfawr heddiw) o’r cerydd gafodd rhai o aelodau gan ei gwyr am fentro i’r Ring yn Llanfrothen ar ôl y cyfarfod cyntaf yn werth i’w ddarllen.

Diolch fod hawliau merched wedi newid am y gorau ers hynny.

Ond i ddod â ni at y dathlu ddiwedd Chwefror, roedd y byrddau yn y neuadd wedi ei gosod yn barod i ni fwynhau’r bwffe ardderchog a baratowyd gan Nia o’r Cyfnod, y Bala.

Roedd Tegwen Morris, cyfarwyddwr y Mudiad, wedi cyrraedd o Aberystwyth ac felly heb oedi dyma gladdu yn yr hen drefn. Fel y dywedodd un o’r aelodau, dim paratoi bwyd, dim golchi llestri, dim ond mwynhau go iawn.

Cyfle wedyn i ni werthfawrogi’r adloniant. Ychydig ar ôl i mi fynd i weithio i Lerpwl cefais lythyr gan Mam. Y genadwri oedd bod fy mrodyr wedi dechrau chwarae offeryn yn Band Pres Nefyn ag roeddynt yn swnio fel gyrr o wartheg mewn poen! Wel, nid felly o gwbl oedd y sain gan John Glyn a’r Band Pres Rhanbarth Eifionydd.

Mwynhawyd yn fawr gwrando ar y disgyblion ifanc yn perfformio, yn ferched a bechgyn o ysgolion Ardudwy, Eifionydd, Eifion Wyn a Cefn Coch. Cawsom wrando ar berfformiad unigol gan Elis Puw, Bedwyr Puw a Lewis Fôn. Diolch i John Glyn am eu hyfforddi ag hefyd am drefnu i’r band ddod atom i ymuno yn y dathlu.

Ar ddiwedd y wledd clywsom gan Tegwen Morris am rai o’r troeon trwstan ers iddi fod yn y swydd. Faint ohonoch sy’n cofio casglu ‘brâ’s ag yna eu cylchynu o gwmpas Pafiliwn y Genedlaethol cyn eu hanfon i ferched tlawd y trydydd byd? Dros y blynyddoedd rydym wedi casglu esgidiau, bagiau ag ategolion gan godi arian mawr at achosion da. Yn fwy diweddar casglwyd dros £43,000 tuag at gronfa Ymchwil y Galon.

A sôn am godi arian, dwi yn meddwl fod y gangen yn haeddu clod mawr am drefnu i godi’r swm o £3,478 i brynu’r diffibrilwyr i Penrhyn a Minffordd. Dipyn o gamp gan mai ond yn fis Hydref lansiwyd apêl y gronfa.

Cewch fwy o wybodaeth mis nesa am leoliadau’r diffibrilwyr.

Diolch i Marian Williams am drefnu i’r aelodau wisgo ‘rosette’ aur yr un, gwaith crosio Noreen Kennedy o’r Penrhyn. Marian hefyd oedd wedi bod yn brysur yn gwau tedi bêrs bach yn anrheg i Tegwen Morris, Catherine Jones, Helen Ellis a Menna Jones i gofio’r achlysur. Ond nid Marian oedd yr unig un prysur yn y gangen.

Roedd Rita Davies yn gwarchod y wyresau tra roedd Mirain, ei merch, yn coginio ag addurno’r gacen pen-blwydd bendigedig.

Mis nesaf rydym yn edrych ymlaen at groesawu Gwenda Griffiths o Dalsarnau atom. Mae hi yn arbenigo ar osod blodau. Felly cofiwch, 26 Mawrth am 7yh.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]