THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 27 Mai, dim Ysgol Sul; 2yp, Gwasanaeth Undebol yng Ngharmel, y Bedyddwyr gyda’r Parch J E Wynne Davies yn pregethu.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 27 Mai, 2yp, Oedfa Undebol gyda’r Parch J E Wynne Davies.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD noson bingo a dewis swyddogion Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn Neuadd Pantyfedwen nos Fawrth, 8 Mai.
Croesawyd pawb gan y llywydd, Joan Davies, a diolchodd i bob un a oedd wedi cynorthwyo mewn unrhyw fodd yn Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen a gynhaliwyd dros benwythnos Gwyl Banc Calan Mai, a dymunodd wellhad buan i Jasmine Wilson a oedd wedi derbyn llaw-driniaeth yn ddiweddar.
Etholwyd swyddogion tymor 2018/2019 fel a ganlyn: llywydd, Jasmine Wilson; is-lywydd, Myfanwy Huws; ysgrifennydd, Jên Ebenezer; trysorydd, Elen Jones; gohebydd y wasg, Neli Jones; dosbarthydd y Wawr, Llinos Jones.
Yn dilyn, mwynhawyd gemau o bingo a chymdeithasu dros baned a oedd wedi ei baratoi gan Jên ac Elen. Enillwyd gwobrau’r raffl gan Jên, Myfanwy, Elen a Neli.
I gloi’r tymor, bydd y trip dirgel yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, 22 Mehefin.
Os am ddod, cysylltwch â Jên Ebenezer ar 01974 831722.
Ar noson gynta’r tymor newydd bydd y grwp yn cynnal stondin gacennau yn Ffair y Ganolfan (Ffair Rhos Gwyl Grog) ar 25 Medi.
Cysylltwch âg unrhyw un o’r swyddogion, a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl ar y nos Fawrth gyntaf o bob mis.
Bags collection
THE next bags collection, including coats, shoes, boots and bags, will be on Friday, 25 May, at 1pm by Parc Angharad.
For collection, call Clare Hughes on 01974 831433 or 07929 532814, or contact Anwen Lloyd at the shop or call her on 01974 831709.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.