THE latest community news from Porthmadog

Clwb y Deillion

AR BNAWN hyfryd o Fai croesawyd ein gwraig wadd, Ann Pierce Jones atom, gynt o fferm Hendre Cennin yn Eifionydd i sgwrsio am ei theulu cerddorol hynod dalentog.

Cyn iddi gychwyn ei sgwrs buom yn gwrando ar dap o John Eifion yn canu ac roedd hynny’n wefreiddiol. Bu Ann yn olrhain hanes ei phlentynod ymhle ‘roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn.

Yna cyfarfod ei g?r Melfyn mewn rhyw steddfod neu gilydd - ac mewn amser priodi a magu teulu a dyna i chi deulu - Melfyn ac Ann yn gantorion gwych ac yn eu dilyn y plant - John Eifion, Carol, Helen a Glesni yn dal i ganu a chyfrannu cymaint i fyd adloniant yng Nghymru.

Ond nid dyna ddiwedd y stori - o na ddim o bell ffordd, mae’r wyrion a’r wyresau yn dal i gario fflam y gannwyll gerddorol ymlaen i’r genhedlaeth nesaf!

Diolch i Ann am bnawn pleserus dros ben ac i Gill a’r tîm am y lluniaeth bendigedig.

Merched y Wawr

EIN siaradwr gwadd y mis yma oedd y Prifardd a’r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.

Wrth ei gyflwyno soniodd Rowena, ein llywydd, am ei waith yn sefydlu Gwasg Garreg Gwalch. Mae’r wasg hon yn hybu a chyhoeddi llyfrau a phapurau bro, a’r mis yma mae’r Wylan wedi cael lliw i’w hadenydd.

Ddwy ganrif yn ôl, esboniodd y siaradwr, roedd Gruffydd Jones, Llanddowror yn sefydlu ysgolion ar draws Cymru, gyda’r nod o alluogi pobl i ddarllen y Beibl yn Gymraeg. Neges Myrddin oedd bod papurau bro yn cyflawni’r un gamp yn yr unfed ganrif ar hugain, sef rhoi cyfle i bobl sydd, fel arfer ddim yn cael cyfle i ddarllen Cymraeg, i wneud hynny.

Testun ei sgwrs i ni oedd Gerallt Lloyd Owen. Soniodd fod dylanwad Gerallt yn drwm arno ef a’i gyd-feirdd yn y nawdegau. Cawsom enghreifftiau o ganu digri a dwys, yn gywyddau englynion a hir a thoddeidiau, â’r cwbl yn datgelu angerdd ei deimladau at Gymru. Diddorol hefyd oedd cymharu gwaith Gerallt ag eiddo Dic Jones, a welai’r ochr olau a’r llall yn gogwyddo at yr ochr dywyll. Bardd dwys ond bardd cymdeithasol oedd Gerallt. Teimlai ddadfeiliad y Gymraeg i’r byw.

Enillwyd y raffl gan Penny, sydd ar fin symud i Stratford. Rhoddwyd y raffl gan Carol a Rhiannon. Diolchwyd i’r siaradwr gan Gwen a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd fel Archdderwydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]