THE latest community news from Prengwyn
Urdd y Benywod
NOS Wener, 18 Awst, cynhaliwyd cyfarfod i drefnu rhaglen y gaeaf a dewis swyddogion am y flwyddyn 2017/2018.
Dewiswyd y canlynol i lywyddu’r cyfarfodydd yn eu tro - Elaine, Gaynor, Hefina, Mary W H a Carys.
Ysgrifennydd y cofnodion yw Hefina; gohebydd y wasg – Barbara; trysorydd – Mary W H, a’r ysgrifenyddes yw Ann.
Cydymdeimlwyd â Maud, Mair Tresi Aur a Mary Min-y-Ffordd ar golli aelodau o’r teulu a chofiwyd am ein hunig ddiacon yn y capel, sef y diweddar D O Evans (neu Dai Pompren fel y’i adnabyddwyd), a fu farw ym mis Mai yn 92 oed.
Dymunwyd yn dda i Mair Bryn-Mair, Bethan, Gwenyth, Barbara, Rhian Blaencwmerwydd a Carys ar ôl triniaethau yn yr ysbyty.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Gaynor ac Ogwen ar ddod yn famgu a hen-famgu i Katie Sara ac i Mair Bryn-Mair ar ddod yn hen-famgu am y drydedd waith i’w gor-wyr Harry.
Enillodd Gwenyth, sy’n astudio’r gyfraith a throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wobr ariannol ac estynnwn ein dymuniadau gorau iddi yn y dyfodol. Roedd Gwenyth hefyd yn un o’r parti llefaru a enillodd y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Elaine yn un o barti llefaru a ddaeth yn drydydd.
Llongyfarchwn Gethin, mab Gaynor, ar dderbyn swydd pennaeth yn Ysgol Ffairfach, ger Llandeilo, a hefyd Lisa Mai, merch Rhian Blaencwmerwydd, ar dderbyn swydd athrawes yn Ysgol Bro Myrddin.
Estynwyd llongyfarchiadau i bawb a gafodd lwyddiant yn y sioeau lleol ac i Luned Mair, merch Elaine, sy’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, a’i llwyddiant hwythau yn Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Talwyd y diolchiadau gan Elaine ac edrychwn ymlaen at y cyfarfod cyntaf.
Y gwr gwadd fydd Wyn Evans o Dre-Ioan a fydd yn siarad am ei brofiad yn goresgyn temtasiwn y ddiod feddwol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.