THE latest community news from Prengwyn

Urdd y Benywod Prengwyn

Cafwyd cyfarfod diddorol diwedd mis Tachwedd gydag Elaine yn llywydd.

Rhoddwyd her i’r aelodau i ddod â’r eitem cyntaf y byddent yn ei achub petai tân yn eu cartref.

Diddorol oedd gweld yr amrywiaeth o eitemau a’r rhesymau dros eu dewis, e.e. lluniau’r teulu, bag llaw, cerdyn credyd, sbectol, dannedd gosod, englyn o waith Dylan Iorwerth, penillion o waith Nana Ryder, llyfr o waith Madonna, ac ayyb.

Ar 8 Rhagfyr, dathlwyd diwedd y tymor am 2017 gyda chinio blasus yn y Llew Coch, Drefach-Felindre, wedi ei baratoi gan Ann Mayes-Davies.

Ann hefyd oedd yn beirniadu cystadleuaeth y noson.

Y dasg a osodwyd i’r aelodau oedd dod â rhodd goffa (souvenir).

O’r 40 eitem, aeth y wobr gyntaf i Mair, Bryn Mair, gyda chwpan a soser o Aberystwyth.

Barbara ddaeth yn ail gyda chwpan o soser o Aberaeron, Ann yn drydydd, eto gyda chwpan a soser o Aberystwyth, a Rhian Graig yn bedwerydd gyda basn â chlawr o Landysul.

Braf oedd cael cwmni’r Parch Wyn Thomas ar ddiwedd y noson.

Llongyfarchwyd y canlynol gan Elaine, y llywydd: Gareth a Sarah ar enedigaeth merch fach, wyres i Gaynor a gor-wyres i Ogwen; y tîm siarad cyhoeddus CFfI Pontsian a gipiodd y wobr gyntaf; Luned Mair am y cadeirydd gorau; Cennydd am y siaradwr gorau.

Pob lwc i’r ddau ym mis Mawrth yn cystadlu yn Llanelwedd, ac i Lisa Mai ar dderbyn gradd MA.

Dymunwyd pob lwc i Meinir ar ei hymddeoliad fel athrawes yn Ysgol Talgarreg, lle bu am gyfnod o 34 o flynyddoedd.

Clowyd gweithgareddau’r tymor ar 31 Rhagfyr, gyda’r aelodau yn canu carolau yng Nghartref yr Henoed ym Maesyfelin, Drefach-Llanwenog, a’r preswylwyr yn amlwg yn mwynhau ac yn cyd-ganu’r carolau.

Bu’n brynhawn hwylus o dan lywyddiaeth Elaine.

Cymerwyd rhan gan Mair, Rhian J, Rowena a Gaynor, gyda Hefina wrth y piano.

Diolchodd Elaine i bawb fu’n ymwneud â’r paratoadau, am y te blasus a’r croeso, ac edrycir ymlaen nawr at y tymor nesaf yn 2018.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]