THE latest community news from Pwllheli

St Peter’s

SUNDAY: 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Monday: 9.30am, Celtic Morning/Prayer and Meditation; Tuesday: 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday: 3.30pm, Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday: 10am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd.

Tuesdays and Fridays, 2-3pm Food Bank.

Chwiorydd

CYNHALIWYD trip blynyddol Aelwydydd Chwiorydd y Drindod ar ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf.

Gan adael Pwllheli am 4.30yp, teithiwyd yn syth i Blas yn Rhiw lle’r oedd Mary Owen a Ross Hemmings yn aros i’w croesawu.

Rhannwyd y chwiorydd i ddwy garfan, y naill yn mynd o gwmpas y plasdy a’r llall yn mynd o gwmpas yr ardd.

Clywyd bod yr adeilad gwreiddiol yn dyddio o’r 17eg ganrif, ac ail luniwyd y plas yn 1820.

Wedi hynny gadawyd y ty yn anghyfanedd nes i’r teulu Keating o Nottingham benderfynu ei achub gan ei brynu yn 1938/39 mewn cyflwr difrifol.

Buont yn brysur wedyn yn ymdrechu i amddiffyn holl amgylchedd y plas.

Ar farwolaeth yr olaf o’r chwiorydd Keating cymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol feddiant o’r plas yn 1952.

Mae’r gerddi hefyd yn hardd iawn, gyda llawer o blanhigion gwreiddol yno.

Gorffenwyd y noson gyda phryd blasus iawn yng ngwesty Ty Newydd, Aberdaron.

Mwynhawyd y trip gan bawb a diolchwyd i Jane Lloyd am drefnu’r cyfan gan Morfydd Roberts.

Merched y Wawr

GAN fod y mudiad yn dathlu hanner canrif ers ei sefydlu, bu aelodau’r gangen yn ymweld a’r Parc, ger y Bala, lle roedd Arddangosfa’r Aur gan mai yno y cychwynodd y gangen gyntaf.

Cafwyd diwrnod hyfryd o braf ym mis Mehefin a mwynhawyd pryd ardderchog yn nhafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn cyn cychwyn am adref.

Ar ddiwrnod crasboeth ym mis Gorffennaf aeth mwyafrif o’r aelodau i Ddathlu’r Aur trwy ymweld â Nant Gwrtheyrn a chael te prynhawn yno.

Diolchwyd i Christine yr ysgrifenyddes am yr adloniant a’r trefniadau i gyd.

Edrychwn ymlaen am ail ddechrau tymor newydd ym Mis Medi.

Coffee Morning

WHY not take a break from the shopping and come along to the coffee morning in Penlan Chapel Vestry on Wednesday, 2 August, from 10.30am till noon.

In addition to the usual stalls and cake tables there will be a tombola and raffles.

Admission is £1 to include tea or coffee and biscuits.

The proceeds will be shared between the chapel’s Sisterhood and local good causes.

All are welcome.

Oedfaon

CAPEL Seion: 10yb, Diacon Stephen Roe.

Capel Penlan: 10yb, Parch Carwyn Siddall, Llanuwchllyn.

Catholic Masses in the Parish

ST JOSEPH’S: Sunday, 11.30am; Saturday, 6.30pm.

Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 9am.

Capel y Drindod

SUL, 30 Gorffennaf: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Gwyndaf Jones.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 30 July, will be led by the Rev Gwyndaf Jones.

The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]