THE latest community news from Soar y Mynydd

Capel

Y PARCH Andrew Lenny oedd ym mhulpud Soar y Sul diwethaf. Diolch iddo am wasanaeth bendithiol iawn.

Hyfryd oedd cael croesawu aelodau o Gapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth a llawer eraill o wahanol ardaloedd. Gwnaed y croesawu gan David Evans, Bow Street a chwaraewyd yr allweddell gan Mair Richards, Llanddewi Brefi.

Disgwylir y Parch Gwyn Elfyn Jones, Pontyberem i wasanaethu’r Sul nesaf am 2yp.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]