THE latest community news from Synod Inn
Cymanfa Ganu Cylch y Cei
Capel Nanternis oedd y lle i fod ar Sul y Blodau eleni i blant, ieuenctid, aelodau a ffrindiau Eglwysi Annibynnol Cylch y Cei.
Pe bawn yn gofyn i chi gofio nôl i gymanfaoedd y gorffennol yn y cylch, mae’n siwr mai Capel Brynrhiwgaled neu Maen-y-groes fyddai’n dod i’r meddwl. Byddai ambell un ohonoch â chof da yn gallu cofio’r gymanfa’n cael ei chynnal yng Nghapel mawr Towyn yn y Cei.
Ond eleni, roedd pethau’n wahanol. Mentro i dir newydd wnaeth y Gymanfa, a chael croeso cynnes gan aelodau a swyddogion Capel Nanternis – a hynny am y tro cyntaf erioed.
Roedd llawr y capel bach yn llawn dop yn y bore ar gyfer oedfa’r plant, ac fe barodd y bwrlwm drwy’r dydd.
Dan arweiniad Heledd James, Castellnewydd Emlyn – gynt yn aelod o Ysgol Sul Pencae – y bu’r plant yn canu eu hoff emynau o’r detholiad.
Diolch i’r holl athrawon a chynorthwywyr yn yr Ysgolion Sul am baratoi’r plant ac am eu gwaith diflino ac i Catrin Evans am ei gwasanaeth ar yr organ.
Roedd y plant wedi mwynhau dangos eu doniau creadigol cyn y cwrdd – y rhai iau’n creu eu hofferynnau eu hunain i’w chwarae yn ystod yr emyn olaf, a’r plant hyn wedi dylunio cloriau lliwgar addas ar gyfer rhaglen y Gymanfa.
Llongyfarchiadau i Isaac Rees (dde) am wneud yr argraff fwyaf ar y llywydd gyda’i offeryn taro arbennig, a da iawn Mali Evans am ddod i’r brig gyda’r clawr. Mae mwy nag un math o ddawn i’w gweld yn y Gymanfa!
Sue Hughes, Peniel, oedd arweinydd gwadd oedfa’r prynhawn a’r nos, ac roedd hi’n bleser canu dan ei harweiniad medrus.
Mae’n siwr bod ei FitBit wedi torri record erbyn diwedd y dydd!
Yr atgyfodiad a phwysigrwydd y Pasg oedd sail cyflwyniad yr ieuenctid yn y cwrdd prynhawn.
Diolch i Gareth Ioan am y gwaith paratoi, ac i’r bobl ifanc a oedd mor barod i gymryd rhan.
Daeth y doniau actio’n handi gyda rhai o’r sgetshys!
Dim cyfeilydd – dim canu, ac mae’r Gymanfa’n ddiolchgar tu hwnt i Neville Evans am ei gyfraniad ar yr organ eleni eto.
Diolch i’n tair llywydd gwadd am gadw trefn ac am eu hanerchiadau pwrpasol – Davena Evans, Nanternis, Gwawr Evans, Pencae a Janem Jones o Gapel Neuadd-lwyd, a ddaeth i rannu rhywfaint o hanes y cysylltiad rhwng ei chapel hi â Madagasgar ac am ddathliadau’r Annibynwyr eleni.
Yng nghanol prysurdeb tair oedfa wahanol yn y capel, yr uchafbwynt i nifer oedd camu i’r festri i fwynhau te a chlonc – y cyfle perffaith i gymdeithasu ar ddechrau’r gwanwyn – a diolch i aelodau Pencae am baratoi a gweini’r bwyd eleni.
Felly roedd y patrwm newydd o newid lleoliad yn llwyddiant ysgubol eleni...be nesa?
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.