THE latest community news from Talgarreg
Capel y Gadfa
CYNHALIWYD oedfa arbennig ddydd Sul diwethaf am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.
Cafodd gyfle i rannu’r cymun a derbyn aelod newydd, sef Peter Roberts.
Cafwyd ganddo neges amserol a phwrpasol yn nodi ein bod yn medru gwneud gwahaniaeth i eraill gydol y flwyddyn. Nid dim ond adeg y Nadolig. Cofiodd am Mair Davies, gan ei bod yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd a dymunodd yn dda i Arwel Davies sydd ar fin derbyn llawdriniaeth. Estynnodd cyfarchion y gynulleidfa i Gwenan Davies, hithau wedi graddio yn ddiweddar. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Nos Sul nesaf cynhelir Gwasanaeth a Pharti Nadolig yr Ysgol Sul yn y festri am 7yh.
Gwasanaethau
CYNHELIR gwasanaethau undebol yng Nghapel Bröydd Marles a Gwenog fel a ganlyn yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu: Dydd Sul cynhelir oedfa yng Nghapel y Graig am 10.30yb; noswyl y Nadolig cynhelir Gwasanaeth Garolau yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 9yh; fore Nadolig cynhelir oedfa undebol yng Nghapel y Cwm am 9yb; dydd Sul olaf y flwyddyn cynhelir oedfa undebol yng Nghapel y Bryn am 10.30yb.
Croeso i bawb i’r gwasanaethau.
Cwis Nadolig
NOS Wener ddiwethaf cynhaliwyd Cwis Nadolig yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh. Roedd saith tîm wedi ymuno yn yr hwyl ac enillodd y tîm buddugol £20. Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ruth Taylor (Thomas gynt) a’i theulu.
Cylch Meithrin
DYFARNWYD y Cylch Meithrin lleol gyda gradd ragorol ym mhob un o’r categorïau asesu yn dilyn asesiad gan Estyn yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i bawb sydd ynghlwm â’r Cylch am eu gwaith arbennig.
Neuadd Goffa
CYNHELIR Gwasanaeth yn y neuadd fore’r Nadolig ac yn ôl yr arfer fe estynnir croeso cynnes i unrhyw un droi i mewn i’r digwyddiad blynyddol hyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.