THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD Cwrdd Pawb Ynghyd ddydd Sul diwethaf a braf oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi allan.
Ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas oedd yn gwasanaethu a’r organyddes oedd Carol Rees.
Aeth pawb i’r festri wedyn i fwynhau paned, cacen a sgwrs.
Diolchodd y gweinidog i bawb fu’n torri porfa a thacluso o gwmpas y capel ar fynwent yn ddiweddar.
Ddydd Sul nesaf cynhelir y Daith Gerdded flynyddol i godi arian tuag at Calonnau Cymru.
Bydd y daith yn dechrau o Gapel Brondeifi, ymlaen i Gapel Caeronnen, lle bydd paned a chacen yn disgwyl pawb.
Cofiwch noddi’r cerddwyr.
Gwyl y Pentref
DROS y penwythnos cynhaliwyd Gwyl y Pentref, gan ddechrau nos Wener gyda’r Helfa Drysor ar droed.
Enillwyr y daith oedd Teleri Morris Thomas a’i thîm.
Dydd Sadwrn roedd y carnifal mawr, gyda’r Ras Siôn Cwilt, mabolgampau, barbeciw a rownderi ar gae’r ysgol. Thema’r flot eleni oedd S4C, a thîm ardal Bwlch y Fadfa ddaeth i’r brig.
Llywydd a beirniad y dydd oedd Lloyd Jenkins a braf oedd ei groesawi yn ôl i’r pentref.
Cychwynnodd y gweithgareddau am 2.30yp yng nghae’r ysgol a braf oedd gweld cymaint wedi gwisgo lan ar gyfer y carnifal ac wedi mynd i hwyl y dydd.
Roedd digon o weithgareddau i gadw pawb yn brysur drwy’r prynhawn a gyda’r nos, ynghyd â bwyd blasus yn cael ei weini; diolch byth fe gafwyd tywydd gweddol er mwyn i bawb gael mwynhau’r gweithgareddau i gyd.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn, 15 Gorffennaf, bydd Dafydd a Lisa yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.