THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa am 1.30yp ddydd Sul diwethaf gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.
Hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi allan ar brynhawn digon gwlyb i wrando ar neges amserol ein gweinidog.
Gwnaed y casgliad gan Jac a Mary. Carol Rees oedd wrth yr organ.
Yn ystod yr oedfa fe gofiodd ein gweinidog am Elin Williams sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Glangwili.
Cynhelir yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp. Croeso cynnes i unrhyw un droi i mewn i wrando ar neges ein gweinidog.
Ysgol Gynradd
MAE’N adeg unwaith eto i ymuno â Loteri’r Ysgol ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan roi cymorth ariannol i’r ysgol a chyfle i ennill arian bob mis.
Os am ymuno cysylltwch â’r ysgol mor fuan â phosibl; tâl aelodaeth yn £12 y flwyddyn.
Eisteddfod
MAE rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa allan yn barod ar gyfer yr eisteddfod a gynhelir eleni ar 5 Mai yn y Neuadd Goffa.
Hon fydd y 65 eisteddfod i gael ei chynnal ac mae’n dal i fod yn ddigwyddiad blynyddol pwysig yn y pentref.
Ein beirniaid fydd Geraint a Sue Hughes, Peniel; Prifardd Idris Reynolds a Robert Blayney; gyda Jonathan Morgan, Llanelli yn cyfeilio.
Llywydd y dydd fydd Geraint Evans, Idole, ger Caerfyrddin ac er nad yw Geraint wedi byw yn yr ardal, mae’i wreiddiau teuluol yn ddwfn yn hanes Capel y Fadfa a’r ardal; bydd yn braf ei groesawi i’r eisteddfod eleni.
Os am raglen cysylltwch ag Emyr Griffiths (01545 590383) neu Enfys Llwyd (01545 590295).
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.