THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHELIR yr oedfa ddydd Sul y Pasg am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas, yn gwasanaethu.

Noson o ddramâu

NOS Wener roedd Cwmni Drama Llandudoch nôl yn perfformio ar lwyfan y Neuadd Goffa.

Braf oedd gweld cymaint wedi dod i gefnogi’r noson oedd dan nawdd Capel Pisgah.

Cwis Pasg

NOS Iau cynhelir cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.

Hyd at bedwar aelod mewn tîm â’r gost o £5 y person; bydd y tîm buddugol yn ennill £20.

Holl elw’r noson tuag at elusennau’r Gymdeithas Hen Beiriannau’r ardal.

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa ar ddydd Sadwrn, 5 Mai yn neuadd y pentref.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]