THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa foreol ddydd Sul diwethaf yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Braf oedd gweld cymaint wedi troi allan ar fore braf a chafwyd anerchiad amserol, gyda hynt a helynt digwyddiadau oedd wedi cymryd lle ar y dyddiad hwn ar hyd y blynyddoedd.

Cydymdeimlodd y gweinidog â theulu Johnny Jones a fu farw yn ddiweddar.

Hefyd diolchodd i bawb am bob rhodd a gweithred tuag at yr eisteddfod ac i Mary Thomas, Llygad yr Haul am ei haelioni wrth dalu am y bwyd a gafodd ei weini adeg y Gymanfa Bwnc.

Dosbarthwyd adroddiad ariannol y capel i’r aelodau oedd yn bresennol, hefyd Yr Ymofynnydd.

Cynhelir yr oedfa nesaf mewn pythefnos, sef ein Cwrdd Pawb Ynghyd.

Croeso i’r aelodau a ffrindiau i’r oedfa gymun dan yng ngofal ein gweinidog.

Bydd lluniaeth yn y Festri wedi’r oedfa a chroeso i bawb i fwynhau orig o gymdeithasu dros baned.

Rasys Trotian

DDYDD Llun Gwyl y Banc, 28 Mai, am 1.30yp, cynhelir Rasys Trotian ar gaeau Rhydlydan.

Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan fydd hwn yn ôl yr arfer.

Capel Penrhiw

AR ddydd Sul, 10 Mehefin, am 2yp bydd aelodau capeli’r Smotyn Du yn gwneud cyflwyniad yn y capel uchod, lawr yn Amgueddfa Sain Fagan, i gofio 150 mlynedd ers etholiad 1868 pan ymladdodd yr Undodiaid yn ddewr yn erbyn gormes.

Os oes rhai o aelodau Capel y Fadfa yn awyddus i fynd, ewch i gysylltiad â’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas mor fuan â phosib i sicrhau eich lifft ar y dydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]