THE latest community news from Trawsfynydd
Llwyddiant gwyl
LLWYDDODD Caryl Jones, merch 16 oed Alun a Delyth Jones, i ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth y goron yng Ngwyl Penbedw yn ddiweddar.
Can mlynedd wedi i Hedd Wyn ennill y gadair yn Eisteddfod Penbedw – y gadair ddu fel y mae’n cael ei galw – bu’n agos iawn i Caryl ddod â’r goron yn ôl i’r Traws. Roedd 20 wedi cystadlu.
Mae Caryl yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Trawsfynydd ac Ysgol Uwchradd y Moelwyn. Bellach mae’n fyfyrwraig blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.