THE latest community news from Trefor

Y Sul

FESTRI Maesyneuadd, 10.30yb, Oedfa Ddiolchgarwch i bawb o bob oed yng ngofal y Parch Casi Jones.

Paned i ddilyn.

Derbynnir eitemau o fwyd ar gyfer Banc Bwyd Pwllheli neu arian ar gyfer gwaith Cymorth Cristnogol ym Malawi.

Am 5.30yh, bydd Oedfa Ddiolchgarwch gyda’r casgliad at Cymorth Cristnogol.

Dechrau Da

BYDD Dechrau Da yn ailddechrau cyfarfod brynhawn Mercher (heddiw) am 1.30yp.

Croeso i fabanod a phlant bach gyda’u gofalwyr.

Chwarae, celf, canu, stori i’r plant a phaned a sgwrs i’r oedolion.

Sgwrs A Sgram

BYDD Sgwrs a Sgram am 12yp ddydd Iau, 5 Hydref.

Enwau a £4 i Angharad Roberts, plis.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]