THE latest community news from Trefor

Y Pasg

BYDD Oedfa’r Groglith fore Gwener am 10yb dan ofal y Parch Robert Roberts, Morfa Nefyn. Gweinyddir y cymun.

Bydd oedfa i bawb o bob oed fore’r Pasg dan ofal y Parch Casi Jones.

Bydd oedfa nos Sul y Pasg dan ofal y Parch Angharad Roberts.

Clwb Gwau

NI fydd y Clwb Gwau yn cyfarfod ddydd Llun y Pasg, ond y Llun wedyn, 9 Ebrill am 2yp yn festri Maesyneuadd. Croeso i aelodau hen a newydd,

Sesiwn Sgwrsio

BYDD y Sesiwn Sgwrsio i rai sy’n siarad Cymraeg yn rhugl a dysgwyr yn Festri Maesyneuadd fore Sadwrn, 14 Ebrill rhwng 10yb ac 11yb.

The next informal chat sessiwn for Welsh-speakers and learners will be at Maesyneuadd chapel vestry on Saturday, 14 April from 10am to 11am. Learners of all levels welcome.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]