THE latest community news from Tregaron
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa ar fore Sul, 24 Mehefin, am 10yb a disgwylir Parch Elwyn Pryse i wasanaethu.
Oedfa Deuluol
AR fore Sul, 16 Mehefin cynhaliwyd Oedfa Deuluol dan arweiniad y Bugail.
Roedd y festri’n llawn ac roedd yn galondid i weld tri dwsin o blant a phobl ifanc yn bresennnol. Braf oedd cael cwmni aelodau Llwynpiod a Blaenpennal.
Cyflwynwyd yr emynau gan Osian Jones, Gethin Bennett, Cerith Evans a Daniel Evans.
Cafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul gyda Catherine Hughes yn cyfeilio a dwy eitem gan aelodau y Clwb Plant a’r Clwb Ieuenctid dan ofal Judith Jones.
Dangoswyd fideo fer yn dangos y gwaith da a wneir gan elusen y ‘Leprosy Mission’.
Roedd y lluniau yn dangos effaith creulon y gwahanglwyf ac rydym fel gofalaeth yn cael cyfle i gyfrannu tuag at yr elusen yma eleni.
Casglwyd gan Daniel Evans a George Lewis a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.
Diolchwyd i’r plant a’r bobl ifanc ac i bawb am eu presenoldeb gan Catherine.
Ni fu’r tywydd yn garedig iawn a chafwyd cawodydd trwm yn ystod y bore ond bu’r dynion yn brysur yn paratoi barbeciw i bawb ar ddiwedd y gwasanaeth.
Bu pawb yn mwynhau’r wledd flasus ac roedd y bwrlwm oedd yn y festri yn dangos fod y plant a’r oedolion wrth eu bodd yn cymdeithasu a sgwrsio cyn troi am gartre.
Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y barbeciw eleni eto.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.