THE latest community news from Tregaron

Buddugoliaeth yn y bae!

MAE Ysgol Henry Richard yn ymfalchïo yn eu llwyddiannau lawr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Llwyddodd y Gr?p Llefaru i flynyddoedd 7 i 9 i ennill y wobr gyntaf. Yn ogystal, mae’r ysgol yn hynod falch o Zara Evans, Bl 9 am ennill y Llefaru Unigol. Hefyd, enillodd Elin Williams, Bl 6 am ennill yr ail wobr am Unawd Bl 6 ac iau.

Cafwyd hefyd llwyddiannau mawr yn yr adran Gelf a Dylunio.

Llwyddodd yr adran i ennill 51 o wobrau yn rhanbarthol ac yna 21 o wobrau Cenedlaethol lawr yn y Bae.

Llwyddodd Megan Williams, Beca James, Rhiannon Jones, Iago Evans a Lois Davies i ennill y wobr gyntaf am eu gwaith celf a chrefft

Cymdeithas Hanes

BWRIADWN gynhyrchu calendr ar gyfer y flwyddyn 2020.

Bydd cyfraniad o’r gwerthiant yn mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Os oes gennych lun o ddiddordeb cysylltwch â John Lewis, Rhydybont, os gwelwch yn dda.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa ddydd Sul, 30 Mehefin, am 5yh dan ofal y Parch Gwyn Elfyn Jones.

Merched y Wawr

AR fore Sadwrn, 15 Mehefin, aeth criw o’r aelodau ar y daith ddirgel flynyddol.

I ble eleni tybed? Dyma June, y gyrrwr, yn mynd lan am Aberystwyth a thynnu i mewn yn Pennau Crafts, lle cafwyd paned a chacen a chyfle i siopa.

Ymlaen wedyn i bentref bach tawel lan môr Aberdyfi. Bu’r tywydd yn garedig ac yn caniatau i bawb grwydro’n hamddenol o amgylch y siopau a chael cinio. Mynd wedyn am bentref glan môr arall, sef Borth. Croesawyd pawb i stiwdio Blue Island Ceramics yn Ynyslas gan Zana.

Eglurodd ei fod yn le prysur, gyda llawer iawn o bobl a phlant yn galw i mewn. O dan cyfarwyddyd Zana cafwyd tipyn o hwyl yn paentio’r crochenwaith, gyda’r aelodau yn falch o’r darnau gorffenedig. Roedd y ddiod, y mefus a’r siocled yn dderbyniol iawn a diolch i’r swyddogion am eu caredigrwydd.

Ar ddiwedd y daith cafwyd swper yng Ngwesty’r Hafod. Dyma ddiwrnod pleserus dros ben, gyda phawb wedi mwynhau’r cymdeithasu.

Talwyd y diolchiadau gan Ann Jones, gan ddiolch yn arbennig i Manon a’r criw am drefnu’r daith ac i June am yrru mor ofalus a bod mor hwyliog drwy’r dydd.

Mae tymor Manon Wyn James fel llywydd yn dod i ben a diolchodd i Lisa Jones, Fflur Lawlor a Rhian Jones am eu cefnogaeth a dymunodd yn dda i Ann Jones a’i swyddogion a y flwyddyn nesaf.

Diolch i ‘r aelodau fu’n brysur yn smwddio gwisgoedd yr Orsedd yn y Neuadd Goffa. Maent yn barod nawr gogyfer â’r ?yl Gyhoeddi Eisteddfod Ceredigion 2020 a gynhelir yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin.

Clwb Cerdded/Walking Club

THE next walk is scheduled for 13 July and has been organised by Lucy Swannell/Avarinah Davies – 01974 261789/07938 787926.

‘Discover the coast – Llanrhystud to Aberystwyth’ is the name of the walk.

This stretch of the Ceredigion Coast Path, which forms part of the 870 miles Wales Coast Path, is remote and dramatic which will make the slopes you’ll encounter worth the effort.

They will use the hourly bus service between Aberystwyth and Llanrhystud to get to the start, then walk back to Aberystwyth enjoying spectacular cliff top views, scenic pit stops and looking out for ‘Twll Twrw’ (the noise hole) also known as Monk’s Cave.

The walk is to last approximately six hours and is graded an Easy walk over a distance of 9.5 miles, with an ascent of 2,100ft/650m.

Meet at Aberystwyth bus station – allow enough time for the 10am bus. Lift shares will be arranged and exact bus time/stop confirmed nearer the time.

Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then feel free to give Gwyneth, membership secretary a ring on 01974 298 802.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]