THE latest community news from Tregroes
Dechrau Canu, Dechrau Wafflo
LANSIWYD llyfr Kees Huysmans, Dechrau Canu, Dechrau Wafflo ar dair noson (19 i 21 Mehefin) yn Eglwys St Ffraed.
Cyflwynwyd rhannau o’r llyfr gan grwp o actorion lleol a chafwyd eitemau amrywiol, rhai yn ysgafn a difyr ac eraill yn cynnwys mwy o ddyfnder a threiddgarwch.
Yn ystod y cyflwyniadau cafwyd datganiadau cerddorol amrywiol gan Kees, gydag Elonwy, ei wraig, yn cyfeilio. Canodd benillion Y Fedwen, gan T Llew Jones, i gyfeiliant telyn Helena Lewis a fu hefyd yn chwarae cerddoriaeth telyn yn y cefndir bob nos.
Yn dilyn cafwyd darlleniadau a thrafodaeth hwylus gan Emyr Llywelyn, Dylan Iorwerth a’r awdur ei hunan, Kees Huysmans.
Ar ôl y cyflwyniad, roedd pawb yn awyddus i brynu copi wedi ei arwyddo ganddo yn yr ysgol.
Bydd unrhyw elw o’r lansiadau a gwerthiant y llyfrau yn mynd tuag at gronfa adnewyddu’r adeilad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.