Daeth nifer fawr o aelodau Cylch Cinio Aberystwyth ynghyd ar nos Wener, 10 Mawrth i ddathlu Gŵyl Ddewi yn Clwb Pêl-droed Penrhyncoch.
Ein gŵr gwadd oedd y Prifardd Dr Hywel Griffiths.
Trefnwyd pum cystadleuaeth ymlaen llaw gyda y testynnau limrig, brawddeg, llinell neu gwpled caeth, triban a pennill telyn.
Y buddugwyr oedd yr Athro Geraint Vaughan (limrig), Wynne Melville Jones (brawddeg) a Hywel Wyn Jones yn ennill y gweddill.
Aeth y prif wobr ar y noson, sef tocyn i Baravin, i Hywel Wyn Jones ar y testyn Triban sef:
Cafwyd noson hwyliog dros ben gan fwynhau pryd o fwyd blasus. Diolch yn fawr i staff y clwb pêl-droed.
Braf deall mae Siop Elusen Sense yn Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth addurno ffenest siop ar gyfer Gŵyl Ddewi a felly yn deilwng o Darian Cylch Cinio.
Roedd yn braf gweld nifer wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth y tro hwn.
Diolch i bwyllgor y parêd am drefnu Parêd llwyddiannus unwaith eto.
Talwyd y diolchiadau gan Dewi Hughes ac ennillydd y raffl oedd Malcolm Davies.
Byddwn yn cwrdd yn Clwb Golff Aberystwyth mis nesaf. Os am ymuno a criw cyfeillgar Cylch Cinio cysylltwch â Huw Williams, ysgrifennydd y cylch ar huw_williams1@btinternet.com am rhagor o fanylion.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.