Cynhaliodd Cylch Cinio Aberystwyth ei cinio Nadolig nos Wener, 9 Rhagfyr yng Ngwesty’r Richmond ar y prom.
Fe ddaeth yr eira i ychwanegu at naws Nadoligaidd i’r achlysur a braf dychwelyd i’n cartref ysbrydol yn y Richmond wedi bwlch hir y pandemig a da oedd gweld bod y croeso mor gynnes ag erioed a’r bwyd yn ardderchog.
Yn anffodus ni lwyddodd y siaradwr gwadd i fod gyda ni oherwydd anhwylder a bu’n rhaid troi ar y funud ddiwethaf at ddawn-dweud nifer o’r aelodau er mwyn difyrru’r criw lliwgar oedd wedi dod ynghyd.
Mawr oedd yr hwyl a’r chwerthin wrth i Cynog Dafis, Hywel Wyn Jones, Phil Davies, Wynne Melville Jones a Lewis Owen ymestyn ambell i stori ac ychwanegu ambell i gelwydd golau.
Diolchwyd iddynt am noson ddifyr a chofiadwy gan Aled Bebb. Enillydd y raffl oedd Lewis Owen, Trawscoed.
Etholwyd Vaughan Griffiths, Bow Street yn is-gadeirydd y Cylch Cinio ac ef fydd y cadeirydd o fis Medi 2023.
Fel cam i geisio diogelu dyfodol y Cylch penderfynwyd ethol dirprwy is-gadeirydd i fod yn olynydd maes o law a derbyniodd Harri Lloyd, Waunfawr y cyfrifoldeb hwnnw.
Bydd ein cyfarfod nesaf yng Nghlwb Pêl-droed Penrhyn-coch ar nos Wener, 13 Ionawr a’r siaradwr gwadd fydd Ioan Lord.
Fel bob amser, mae croeso i aelodau newydd i ymuno yn yr hwyl drwy gysylltu ymlaen llaw â’r ysgrifennydd ar [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.