NOS Sadwrn cynhelir Cyngerdd Mawreddog yng Nghapel Bethel, Aberystwyth am 7yh er mwyn codi arian tuag at Wirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref a Ward Enlli, Ysbyty Bronglais.
Yr artistiaid ar y noson fydd Côr Meibion Machynlleth, côr meibion a ffurfiwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015. Ers hynny maent wedi mynd o nerth i nerth gan ddod yn fuddugol yng nghategori’r corau meibion yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2017, a hwy hefyd ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr haf hwn.
Byddant yn canu yn Llundain ym mis Hydref 2018 yng nghyngerdd Mil o Leisiau, ac maent yn edrych ymlaen yn fawr i gael canu yng Nghanada ym mis Ebrill 2019 o dan arweiniad Aled Myrddin a gyda Menna Griffiths ar y piano.
Hefyd yn ymddangos bydd y tenor adnabyddus o Lanbrynmair, sef Aled Wyn Davies - sydd wedi dod yn enwog fel rhan o’r tri thenor Cymraeg. Er mwyn cael naws lleol i’r gyngerdd, bydd plant a phobl ifanc yr ardal sydd yn canu yng Nghôr Academi Gerdd y Lli dan arweiniad Gregory Vearey Roberts yn cymryd rhan.
Yr arweinydd fydd John Davies, Rhydyfelin, un sydd â blynyddoedd o brofiad yn arwain cyngherddau.
Felly, os ydych am fod yn rhan o’r gyngerdd wych hon, ewch i Siop y Pethe, Siop yr Hosbis neu medrwch ffonio Megan ar 01970 612768 i gael eich tocynnau, sydd yn £10 yr un.
Dewch i gefnogi ac i fwynhau noson arbennig o ddiddanwch hwylus yng nghwmni’r sêr hyn.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.