Yn ei nofel newydd, mae awdures o Ben Llyn yn creu portread byw o ddyddiau coleg yn niwedd y 1950au: gadael cartref i fyw mewn ty lojin am y tro cyntaf, darganfod siopau a thafarnau a phrofi rhyddid ac annibyniaeth.

Mae Lona Patel bellach yn byw yn Lloegr, ond dewisodd osod ei dwy nofel yng ngogledd-orllewin Cymru. Yn Brynhyfryd mae un o’r prif gymeriadau, Ann, yn ysu i gael symud o Dudweiliog i’r coleg ym Mangor.

“Bydd sôn yn aml y dylai pobl ysgrifennu am bynciau sy’n gyfarwydd iddyn nhw,” eglura Lona, “ac i mi, roedd Bangor yn eitha cyfarwydd ar ôl i mi dreulio tair blynedd yn y Coleg Normal.

“Ac i mi, fel i gymeriad Ann yn y nofel, roedd yn rhyddhad i gael mynd i Fangor i ddechrau ar fy ngyrfa yn y coleg, cael tipyn bach o ryddid a gwneud ffrindiau newydd – ond dyma ble mae’r tebygrwydd rhyngdda i ac Ann yn dod i ben!”

Cawn ddilyn Ann wrth iddi ddarganfod ei bywyd newydd ym Mangor yn 1959, ond daw cysgod dros ei bywyd newydd wrth iddi ddarganfod cyfrinachau ei landledi newydd.

“Mae ychydig o ddirgelwch yn y nofel,” meddai’r awdur.

“Byddaf yn hoffi darllen nofelau sy’n gwneud i mi geisio dyfalu beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, beth yw amcanion y cymeriadau, oes rhywun yn celu’r gwir a pham. Mae gen i lond silff o nofelau Agatha Christie!”

Y dylanwad hwn sy’n troi’r nofel ychydig yn fwy tywyll, gan droi delfryd Ann o’i bywyd coleg yn fwy o hunllef.

Mae Brynhyfryd ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com

• Cafodd Lona ei magu ym Mhen Llyn, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a’r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montréal ac wedyn i Buffalo, Efrog Newydd.

Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr a’r Rhiw yn Llyn.

Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, a chyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Weirglodd Wen, yn 2016.