MAE Dewi Snelson wedi camu i gadeiryddiaeth Mentrau Iaith Cymru.
Bu’n is gadeirydd am y tair blynedd ddiwethaf tra bu Lowri Jones yn cadeirio, a diolchwyd iddi am ei gwaith diwyd yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn hynod o heriol.
Mae Dewi yn brif swyddog Menter Gorllewin Sir Gâr er 2014. Mae’n enedigol o sir Ddinbych, ac wedi gweithio i Fenter Iaith Môn cyn symud i Gaerfyrddin ble mae’n byw gyda’i wraig a thri o blant.
Meirion Davies, prif swyddog ar Fenter Iaith Conwy, yw is gadeirydd newydd rhwydwaith y Mentrau Iaith.
Os am gysylltu gyda Mentrau Iaith Cymru: [email protected]u / 01492 643401







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.