ER gwaethaf rhagolygon tywydd garw, aeth Gorymdaith Gwyl Dewi cyntaf Llanbedr Pont Steffan ymlaen ddydd Gwener.

Oherwydd y tymheredd isel, penderfynwyd lleihau llwybr yr orymdaith fel bod pawb ddim allan yn yr oerfel am rhy hir, a newid pen y daith i Neuadd Buddug.

Gyda’r Maer a’r Faeres yn arwain, gadawodd yr Orymdaith Neuadd y Dref, a mynd ar hyd Stryd Fawr a Stryd y Coleg cyn i bawb cael paned yn Neuadd Buddug.

Cafwyd anerchiadau gan y Maer, y Cyng Hag Harris, a Gillian Elisa, cyn cyhoeddiad bod y Parlwr Pincio wedi ennill y wobr am ffenest siop orau Gwyl Dewi. Canodd Parti o Gôr Meibion Cwmann a’r Cylch i orffen y dathliad.

Syniad Dirprwy Faer y Dref, y Cyng Ann Bowen Morgan, oedd cynnal gorymdaith i ddathlu ein nawddsant, a daeth grwp o bobl o’r gymuned ar y cyd â rhai o Gyngor y Dref i drefnu’r orymdaith. Roedd bwriad cynnig gig ar nos Sadwrn, ond oherwydd yr tywydd, fe’i gohiriwyd. Cadwch eich tocynnau – byddwn yn cyhoeddi dyddiad newydd yn fuan.

Roedd yr ysgolion lleol ar gau oherwydd y rhybuddion tywydd, ond daeth cynrychiolwyr o Ysgol Bro Pedr a nifer o fudiadau gan gynnwys Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Capel Noddfa, Capel Bethel Parc-y-rhos, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Capel Brondeifi, y Ford Gron, Ambiwlans St Ioan ac eraill. Roedd tua 70 o bobl yn yr orymdaith!

Gyda chymaint o ddigwyddiadau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi wedi’u gohirio neu ganslo, roedd yn braf bod modd dal ati yn Llanbedr Pont Steffan.

Diolch i bawb ddaeth allan i gefnogi, ac yn arbennig i’r heddlu, ambiwlans St Ioan a’r rhai oedd wedi gwirfoddoli i stiwardio.

Buasai Ann Morgan yn fodlon iawn cymryd unrhyw awgrymiadau ar gyfer yr ail orymdaith flwyddyn nesaf.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr