Dychwelyd i Westy’r Richmond fu hanes Cylch Cinio Aberystwyth yn ystod mis Ionawr.
Does fawr o syndod bod y lleoliad yn ffefryn gan yr aelodau o ran ansawdd y bwyd a bod y croeso yn naturiol Gymreig a Chymraeg.
Braf oedd cael cwmni Hywel Roberts i’n diddori. Mae Hywel wedi ymgartrefi yn Bow Street ers nifer helaeth o flynyddoedd ac mae wedi cymryd ei le yn amlwg yn y gymuned yn lleol.
Cyflwynwyd y gẁr gwâdd gan y cadeirydd Vaughan Griffiths fel person galluog, talentog mewn amryw o feysydd a chwmniwr da.
Fe’i magwyd yn fab y Mans yn Aberteifi a chafodd ei addysg yn ysgolion y dre cyn dod i Aberystwyth i astudio’r Gymraeg a chael graddau BA ac MA cyn treulio blwyddyn yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru yn Aberystwyth.
Treuliodd gyfnodau yn gweithio yn Nottingham, Brighton, Lancaster a'r Amwythig cyn dychwelyd i’w sir enedigol ac i Goleg Llyfrgellwyr Cymru yn Aberystwyth fel aelod o staff yr Adran Astudiaethau Cymraeg ar ôl cyfnod yn Bennaeth ac yn Brifathro’r Coleg.
Pan unwyd Coleg Llyfrgellwyr Cymru gyda’r Brifysgol yn 1989 cafodd Hywel ei benodi yn Bennaeth cyntaf yr adran newydd ac wedyn ei benodi yn Athro yn y Brifysgol. Bu wedyn yn gweithio i’r Swyddfa Gymreig. Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn eu tro.
Mae sawl enghraifft o waith Hywel yn Ngheredigion gan gynnwys adleoli llyfrgell y dre yn Aberystwyth i adeilad newydd lle’r oedd Neuadd y Dref yn Morfa Mawr a chreu Canolfan Alun R Edwards. Roedd hefyd â rhan allweddol yn y broses o sefydlu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol sydd erbyn hyn yn ffynhonnell wybodaeth genedlaethol eithriadol o werthfawr.
Bu hefyd yn aelod o Gȏr Cantre’r Gwaelod (gwreiddiol) ac yn Ynad Heddwch am dros ugain mlynedd a bu ei gyfraniad ar y cyfryngau a’r byd cyhoeddi yn sylweddol.
Yn briodol iawn ar ddechrau blwyddyn aeth Hywel ar drywydd arferion, traddodiadau a dathliadau blwyddyn newydd gan son am ddirywiad hela calennig a fu unwaith mor boblogaidd, yr Hen Galan a Thafarn y Dyffryn Arms, Tafarn Bessie yng Nghwm Gwaun, y diddordeb newydd yn y Plygain a soniodd am yr arferion o fynd i nofio yn y mor ar ddydd Calan.
Roedd Almanac Cymraeg y Cymro yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Tivyside a bod tua 30,000 o gopïau yn cael eu gwerthu. Hefyd 75 mlwyddyn yn ôl y cafodd Plaid Cymru ei ffurfio. Soniodd hefyd am addunedau dechrau blwyddyn ac roedd yn arfer i 80 y cant o bobl i lunio rhestr o addunedau i’w cadw ac i’w torri gyda threigl amser.
Diolchwyd i’r siaradwr gan gymydog iddo sef Gordon Jones, Bow Street. Eddie Jenkins, Llandre oedd enillydd y raffl.
Cydymdeimlwyd gyda Gwynfryn Evans ar golli ei frawd Hywel Evans, Marchlyn ,Pennal ar ddechrau’r flwyddyn.
Hysbyswyd yr aelodau ar gais Glan Davies bod Brecwast yn cael ei drefnu yn y clwb rygbi ar 24 Chwefror, cyn gêm Cymru ac Iwerddon am 10yb i godi arian ar gyfer Cancr y Prostrad. Mynediad £10. Croeso i bawb.
Bydd y cyfarfod nesa o’r Cylch Cinio yn Poppys, Canolfan Arddio, Capel Dewi SY23 3HS ar nos Wener, 9 Chwefror. Croeso i wynebau cyfarwydd a newydd.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]





