CYFLWYNWYD tri diffibrilliwr i gymunedau pen draw Llyn.

Cyngor Cymuned Aberdaron sy’n gyfrifol am darparu’r peiriannau trwy gyllid gan Gronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Bydd y diffibrillwyr yn cael eu lleoli tu allan i neuaddau Y Rhiw a Rhoshirwaun a Chapel Uwchmynydd. Darparwyd y peiriannau gan elusen Calonnau Cymru.

Yn y llun gwelir aelodau o’r gwahanol ardaloedd, o’r chwith: Carol Jones (Capel Uwchmynydd), Robin Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron), Catrin Jones (Capel Uwchmynydd), Gwenllian Roberts (Cyngor Cymuned Aberdaron), Catherine Roberts (Neuadd Rhoshirwaun), Susan Jones (Calonnau Cymru), Emlyn Jones (Neuadd Rhiw), Noel Jones (Calonnau Cymru) a Helen Jones (Neuadd Rhiw