St Thomas’ Methodist Church
Sunday, 22 November: 10.30am, service in English led by Anne Price.
Crèche and youth group available. Coffee and fellowship after the service.
St Peter’s Church
Saturday, 21 November: Annual Christmas fair from 10am to noon in the church hall.
Sunday, 22 November: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Holy Communion in Welsh; 10.30am, Holy Communion (bilingual).
Cylch Cinio
Noswaith Tân Gwyllt oedd hi a phwysicaf byth efallai oedd noson ail gyfarfod Cylch Cinio Llanbed.
Y gyrchfan oedd adeilad coeth Clwb Rygbi Llanbed. Yn anffodus, roedd y tywydd wedi tawelu tipyn ar y ffrwydradau a boddi brwd y fflamau, ond o fewn yr adeilad roedd coelcerth o groeso, gwledda a llefaru llachar ar y gweill.
Croesawyd y cwmni gan ein llywydd, Densil Morgan, ac i ddilyn mwynhawyd pryd o ginio wedi ei goginio a’i weini’n hyfryd.
Wedyn, cyflwynodd y llywydd ein siaradwr gwadd, sef y Doethur Brinley Jones.
Dyma berson cwbl gyfarwydd i lawer ohonom ac enwog am ei agosatrwydd a’i allu i draddodi a dysgu mewn modd deniadol.
Ei destun oedd Syr John Williams – meddyg y Frenhines Victoria a llywydd cyntaf y Llyfyrgell Genedlaethol.
Efallai fod yna ddigon o gyferbyniad yn y testun i greu ias o gywreinrwydd.
Clywsom hanes brodor o Gwynfe a ddechreuodd ei yrfa feddygol yn Abertawe, cyn mynd i Lundain lle gwnaeth waith arbrofol a sylfaenol mewn gynaecoleg.
Uched fu ei enwogrwydd nes iddo ddal sylw’r Frenhines Victoria a chael ei wysio i weini arni ar enedigaeth dau o’i phlant.
Ond er y clod a’r llwyddiant, trechodd ei Gymreictod a’i gariad at ei gefndir ef.
Ei uchelgais fwyaf bellach oedd hybu genedigaeth gwbl wahanol ac helpu i greu sefydliad fyddai’n allweddol i ffyniant ein llên a’n hanes – y Llyfrgell Genedlaethol i Gymru a lloches i’n trysorau.
I sicrhau dechrau da, cyflwynodd gyfoeth anhygoel o gasgliad o hen lyfrau a dogfennau Cymraeg a Chymreig i’r ddarpar llyfyrgell ar yr amod y byddai’n cael ei sefydlu yn Aberystwyth. Felly y bu ac yno y mae o hyd.
Gwerthfawrogwyd araith gynhwysfawr gan wr fu’n lywydd y sefydliad hwn yn ystod ei yrfa lachar ei hun.
Diolchwyd yn wresog iddo gan John Phillips – yntau hefyd wedi cyd-weithio a chyd-redeg i gadw’r sefydliad hwn yn ei briod le a’i lawn werth.
Mae gennym griw o siaradwyr pellach i’n plesio am weddill y tymor.
Croeso cynnes i ymuno â ni am fwynhad.
Shiloh a Soar
Hazel Thomas, Drefach, oedd y gwestai yn y gymdeithas ddiwylliadol ar brynhawn Iau, 5 Tachwedd.
Cyflwynodd y llywydd, Philip Lodwig, ein siaradwraig fel person amryddawn o aml ddoniau, gan gofio ei diddordeb mewn trin gwallt, coginio a’r diwydiant bwyd.
Soniwyd am ei chyfraniad i Ffair Fwyd Llambed.
Penodwyd hi beth amser yn ôl i fod yn rheolwraig ‘Uned Casgliad y Werin’ yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dyma swydd sydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan y llywodraeth, Comisiwn Brenhinol a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Soniodd yn ystod ei chyflwyniad diddorol am bwysigrwydd y werin bobl yn ein cymdeithas.
Gwelwyd luniau trawiadol sut i 11 o deuluoedd orfod gadael eu cartrefi yn Nhreweryn er mwyn sicrhau cyflenwad dwr i Lerpwl.
Mae’r lluniau wedi denu gwylwyr o 542 ar y wefan.
Yn ystod ei gwaith, mae yna gasgliad gwerthfawr o Gapeli Cymru ac o ddiddordeb arbennig i ni yma mae yna wybodaeth drylwyr o hanes Llanbed, gan gynnwys y capeli.
Yn wir, ar ei gwefan, mae yna 48 o eitemau o hanes ein tre.
Am fwy o wybodaeth, medrir cysylltu gyda Hazel drwy e-bostio [email protected].
Diolchodd y llywydd i’n gwestai am gyflwyniad hynod ddifyr a diddorol a gafodd ei adlewyrchu mewn trafodaeth fywiog ac adeiladol ar ddiwedd y cyfarfod







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.