Ysgol Sul Noddfa

DAETH cynulliad teilwng iawn ynghyd i Noddfa ar 8 Tachwedd i wasanaeth diolchgarwch yr Ysgol Sul wedi ei baratoi gan Janet. Braf oedd gweld 20 yn cymryd rhan, yn amrywio o 4 i 18 oed a hefyd saith o’r mamau â phawb yn rhoi o’u gorau wrth ddiolch i Dduw am ei holl fendithion a chofio hefyd am y rhai llai ffodus na ni. Cyhoeddwyd yr emynau gan Rhys Tom, Sion Ifan, Cerys Angharad a Grace a’r llefarwyr oedd Lisa, Sioned, Elan, Dafydd a Sian Jones. Darllenwyd salm gan Sian Roberts Jones a gweddïwyd gan Delyth, Helen, Llinos ac Alwena. Mwynhawyd dwy sgwrs oedd yn cynnwys neges bwysig i bawb, ond hefyd yn llawn hiwmor, sef un gan gan Rhys, Tomos ac Osian a’r llall gan Sion, Gwenllian a Ffion. Hefyd pleser oedd oedd gwrando ar bartïon canu amrywiol, heb anghofio datganiad swynol Lowri Elen a chyfraniad hyfryd y criw ieuengaf mewn pennill a chân, sef Sion Ifan, Cerys Angharad, Tudur, Rhun, Trystan a Trystan Wyn oedd wedi dod â gwên i wyneb pawb. Casglwyd gan Darcey, Trystan a Trystan Wyn. Hefyd yn bresennol roedd Cai, Llewelin, Lynwen ac Ifan. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Ann a chyfeiliwyd i’r plant gan Alwena.Hyfryd oedd gweld tri aelod newydd yn cymryd rhan yn oedfa’r plant am y tro cyntaf, sef Cerys Angharad o Bencarreg, Trystan o Bumsaint a Trystan Wyn o Silian ac yn gwneud hynny yn llawn hyder. Maent wedi setlo lawr yn ardderchog yn yr Ysgol Sul. Daeth y plant â bwydydd o bob math i’w cyflwyno i Fanc Bwyd y dref a diolchir i’r teuluoedd am eu caredigrwydd. Talodd Llinos deyrnged uchel i bawb am eu cyfraniadau graenus, i Janet am ei pharatoadau manwl, gan wneud i bopeth redeg mor drefnus ac i Derek a John am baratoi’r llwyfan. Aeth pawb o’r oedfa gan deimlo eu bod wedi derbyn bendith wrth gyd-addoli gyda’r plant a’r bobl ifanc mewn gwasanaeth arbennig i gydnabod haelioni Duw.

Oefaon/Services

ST THOMAS’ Methodist Church: Sunday, 6 December, 10.30am, communion service in English led by Rev James Patron Bell. Lighting of the second Advent candle. Crèche available. Coffee and fellowship after the service.St Peter’s Church: Sunday, 6 De-cember: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, morning prayer, bilingual.