Services

SUNDAY, 15 November: 8am, communion; 11am, communion.

Clwb Croeso

CYNHALIWYD ein cwrdd diolchgarwch ar 13 Hydref yng Ngwesty’r Porth.

Croesawodd Mary Williams bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau a chroesawyd dwy aelod newydd, sef Lyn Edwards a Rosalind Thomas.

Yn dilyn y pwyllgor, cychwynwyd yr oedfa ddiolchgarwch gyda aelodau’r clwb yn cymryd rhan. Gwnaed anerchiad gan y Parch Goronwy Evans, Llanbed a oedd wedi camu i’r adwy ar y funud olaf. Diolch o galon iddo.

Gwnaeth Margaret Phillips y diolchiadau a gwnaed y casgliad tuag at bapur llafar y deillion.

Carnival

THE AGM will be held at the Porth on Thursday, 19 November, following presentation of the cheques and light refreshments.

Clwb Hanes

Ar nos Fercher cafwyd noson hyfryd yn llawn gwybodaeth am y porthmyn ar eu taith o Gymru i Lundain yn yr hen amser, gyda phawb wedi mwynhau clywed yr hanes, yn enwedig am y daith o Bentrecwrt.

Bydd y Cinio Nadolig yn y Porth ar 9 Rhagfyr a’r cyfarfod nesaf ar y nos Fercher, 25 Tachwedd.

Exhibition

THE Christmas art exhibition will be held at the Powerhouse Pontwely from Monday, 21 November until Saturday, 5 December open from 10am to 4pm.

The artists are Beryl Collins, Dave Driver, Ken Guy, Linda Guy and Alison Wootten.

Capel Carmel

BYDD yna noson Canu Carolau yn y capel ar nos Sul, 13 Rhagfyr gyda Mair Davies, Tresi Aur yn lywydd y noson.

Bore Coffi

AR fore Gwener, 30 Hydref, cafwyd noson goffi arbennig yn neuadd yr eglwys.

Diolch am bob cefnogaeth a gwnaed elw o £127 a fydd yn cael ei roi i ward y plant yn Ysbyty Glangwili.

Byddwn hefyd yn ychwanegu at y swm uchod, yr elw a wneir o’r noson o ganu carolau yng Nghapel Horeb a gynhelir ar nos Sul, 13 Rhagfyr yng nghwmni Carol Davies yn arwain a Rhian Jones wrth yr organ, ac Alwena Owen o Llanllwni yn artist.