Merched y Wawr
YN ein cyfarfod ar ddechrau mis Tachwedd dechreuwyd drwy gyd-ganu cân a geiriau gwladgarol Jacob Davies. Rydym yn cyfarwyddo â’r ail a’r trydydd pennill yn eu tro.
‘Pethau Olyv’ oedd testun y noson – tipyn o ddirgelwch.
Chawsom ni mo’n siomi. Dwy nyrs yw Olive ac Yvonne a’r ddwy wedi dechrau busnes gyda’i gilydd wedi ymddeol o waith nyrsio.
Siop ar glud sy’n ganddyn nhw.
Yn ein disgwyl o gylch yr ystafell roedd arddangosfa liwgar a deniadol o ategolion moethus.
Maent yn arddangos a gwerthu mewn sioe, ffair a marchnad, â’r busnes yn cynyddu ers tair blynedd.
Wedi’r cyflwyniad a’u hanes llawn hiwmor iachus – cawsom gyfle i grwydro ac edmygu ac i bwrcasu ambell eitem o blith y dewis helaeth.
Roedd hon yn noson wahanol a llawen â’r geiriau o ddiolchgarwch yn dod yn hawdd i Brenda.
Paratowyd cwpaned boeth gan Margaret Morgan a Jean. Olive ac Yvonne oedd beirniaid y gystadleuaeth.
Y testun y tro hwn oedd ‘darn o sebon anarferol’.
Mair Jones gipiodd y wobr gyntaf, Brenda yn ail a Mary Parry yn drydydd.
Aeth gwobrau’r raffl i Joyce, Olive ac Eirlys.





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.