Merched y Wawr
‘NOSON o Gân’ oedd y teitl ar ein rhaglen ar nos Fercher, 18 Tachwedd. A dyna i chi noson gawsom ni gan driawd talentog ynghyd â’u cyfeilydd ardderchog.Alan Wynne Jones, Geraint Thomas ac Alun John a Mary Jones Morris rod-dodd noson o gân i godi’n calonnau. Gan y triawd o leisiau coeth, cafwyd detholiad o ganeuon sy’n rhan o’n deunydd ni Gymry Cymraeg.Adroddodd Geraint storïau bob yn bwt bach rhwng y caneuon a’n cadw ar flaen ein seddau yn disgwyl yn eiddgar am y pwt nesaf o’r saga ddoniol.
Roedd cyfeiliant Mary ynddo’i hunan yn bleser pur ac yn llanw’r ystafell.Diolchodd Mary o waelod calon i’r pedwar talentog, sydd ar ôl iddynt ymddeol yn gwasgar eu doniau, yn hytrach na’u cuddio o dan badell. Rhoesant i ni noson ardderchog yn llawn chwerthin a chan.Paratowyd cwpaned a swper blasus gan Anne, Eluned a Brenda. Pleser oedd cael estyn gwobr raffl yr un i Mary Morris ac Alan Wynne Jones ac i Brenda.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.