Geiriadur
FAINT ohonon ni sy’n cael trafferth dod o hyd i’r union air iawn…? Wel, na phoener o hyn ymlaen, oherwydd y mae Geiriadur Cym-raeg Gomer gan y tad a’r mab o Langwyryfon, D Geraint Lewis a Nudd Lewis, yn dod i’n hachub ni!Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o eiriau o rai newydd sbon fel ‘hunlun’ (selfie), ‘blogiwr’ (blogger), ‘liposugnedd’ (liposuction) a ‘cwsmereiddio’ (customize) i hen eiriau fel ‘trontol’ (am ddolen cw-pan) a ‘cunnog’ (hen air am fwced pren i gario llaeth).Enghreifftiau eraill yn y geiriadur newydd yw ‘teisen ffenestr’ am deisen Battenberg ac oeddech chi’n gwybod mai ‘siop ymdopi’ yw DIY shop? Y geiriadur hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch ar gyfer byw yng Nghymru’r 21ain ganrif.Dyma’r gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei gwneud yn ei hanes hir (124 o flynyddoedd hyd yma), tipyn o gamp. Meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r geiriadur newydd cyfoes hwn sydd dros 1,300 o dudalennau. Cyflawnodd Geraint Lewis, a’i fab, Nudd, waith arwrol… Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor i’r iaith”.Bu’r geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd John Lewis i Geraint Lewis weithio ar greu geiriadur Cymraeg newydd. Ers hynny, mae’r broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannu’r cynllun ac wedi bod yn rhan o’r broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawf ddarllenwyr i gael y geiria-dur i fwcwl. Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau.Lansiwyd Geiriadur Cymraeg Gomer gan D Geraint Lewis a Nudd Lewis ar nos Iau, 24 Mawrth yn argraffdy Gwasg Gomer, Llandysul.
Cyngor Cymuned
CYNHALIWYD noson arbennig yng nghlwb golf Penrhos yn ddiweddar i ddangos gwerthfawrogiad o waith Myfanwy Williams. Mae wedi bod yn glerc ffyddlon a gweithgar i Gyngor Cymuned Llangwyryfon am 25 mlynedd ac wedi gweld llawer o newidiadau a datblygiadau yn ystod y cyfnod. Daeth y cynghorwyr ynghyd i ddathlu ei hymddeoliad gyda hi. Ymddiheurodd Margaret Lewis a’r Cyng Rowland Rees-Evans am fethu bod yn bresennol.Yn y llun (uchod) gwelir Myfanwy Williams (canol) yn derbyn blodau oddi wrth y cynghorwyr cymuned.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.