YN Eglwys St Thomas, Llanbedr Pont Steffan, gyflwynwyd gwobrau am gynllunio logo ar gyfer Cadwyn Teifi, mudiad newydd sy’n cael ei sefydlu i hybu’r ffydd Gristnogol ymhlith plant a phobol ifanc ardaloedd dalgylch Ysgol Henry Richard, Tregaron, ac Ysgol Bro Pedr, Llanbed.

Cyflwynodd y Parch Suzy Bale y wobr gyntaf i Elain Williams, Ysgol Bro Pedr - gwelir y logo yn y llun.

Yr Athro Densil Morgan, cadeirydd y pwyllgor, gyflwynodd yr ail wobr i Lisa Evans, Ysgol Bro Pedr.

Elain hefyd oedd enillydd y drydydd wobr.

Hefyd yn y llun mae Huw Williams, pennaeth celf Ysgol Henry Richard, a Nerys Beaumont, athrawes celf a graffeg Ysgol Bro Pedr.