Naws y Nadolig yn y Parc
MAE PWYLLGOR RABI Meirionnydd wedi trefnu gwasanaeth carolau i godi arian i rheini yn y diwydiant amaeth sy’n ei chael hi’n anodd am amryw o resymau. Bu’r pwyllgor yn prysur lunio rhaglen o garolau traddodiadol i’w canu mewn noson o ganu cynulleidfaol yng Nghapel y Parc, y Bala ar nos Sul, 20 Rhagfyr, am 7yh.
Arweinir y noson gan yr amryddawn Geunor Roberts, sydd hefyd yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor, gyda Gwerfyl Williams yn cyfeilio. Ceir datganiadau cerddorol gan aelodau o’r capel, sef Penri Jones a John Ifor yn ystod y noson. Ni chodir tâl am fynediad, ond gwneir casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith i helpu teuluoedd sydd naill ai’n ffermio, neu wedi ymd-deol o’r diwydiant ym Meirion-nydd. Bydd lluniaeth ysgafn yn y neu-add i bawb yn dilyn y gwasanaeth. Mae RABI (y Gymdeithas Fud-diannol Amaethyddol Frenhinol) yn elusen llesiant i’r rheini yn y diwydiant amaeth sy’n ei chael hi’n anodd.Ariennir ein gwaith gan fwyaf trwy roddion o du’r cyhoedd, gan arian a godir gan weithgareddau a drefnir gan ein pwyllgorau sirol, gan fusnesau a grwpiau cymunedol.Syniad pwyllgor RABI Meirionnydd oedd cynnal y noson, a dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Olwen Jones: “Rydym yn hoff iawn o ganu yn y sir hon, a meddyliais y byddai noson o ganu carolau yn ffordd hyfryd i ledaenu’r neges ynghylch gwaith RABI a’r cymorth maent yn gallu rhoi i bobl sy’n ffermio.”Dywedodd Linda Jones, rheolwr RABI yng Nghymru: “Rydym yn hynod o ddiolchgar i bwyllgor Meirionnydd am drefnu’r noson hon. “Mae’n argoeli i fod yn noson braf a chymdeithasol. Croeso cynnes i bawb.”




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.