Y Gymdeithas
NOS FAWRTH, 17 Tachwedd, cafwyd noson ddifyr iawn a hwyliog yng nghwmni Gwyndaf Jones, Efailnewydd yn gwneud hufen iâ.
Cyfeillion Plas Hafan
CYFARFU’R Cyfeillion ar 16 Tachwedd o dan lywyddiaeth Alun Jones. Yr oedd yn falch iawn o groesawu dwy aelod newydd, sef Sian a Rhian, dwy ferch y ddiweddar Heather Roberts. Diolchwyd am yr ymweliadau a wnaethpwyd i’r cartref yn ddiweddar, yn cynnwys Côr Heneiddio yn Dda Nefyn, Seimon ac Ann, Dafydd Iwan a Harri Parri. Pasiwyd i gyfrannu tuag at ginio Nadolig y preswylwyr fydd ar 8 Rhagfyr. Bydd y Cyfeillion hefyd yn cynnal parti ym Mhlas Hafan ar 15 Rhagfyr gyda bwffe am 1yp a rhannu anrhegion a charolau i ddilyn. Mae’r staff yn trefnu achlysur Nadoligaidd am 2yp, ddydd Mawrth, 22 Rhagfyr, pan fydd paned a chacen, rafflau a tombola ar gael. Bydd cyfarfod nesaf y Cyfeillion ym Mhlas Hafan am 7.30yh nos Lun, 15 Chwefror.
Capel Soar
FORE Sul, 15 Tachwedd, roedd y gwasanaeth dan ofal Meinir P Jones yn sôn am y gwahanol gyfiethiadau a’r tri Beibl a phregethwyd yng nghyfarfod yr hwyr gan y Parch Arthur Meirion Roberts, Pwllheli ar y testun ‘A’i ffrind neu fradwr oedd Judas’. Llywyddwyd gan Gwyn Hughes.Oedfa dan ofal Alun a Beti Jones gafwyd fore Sul, 22 Tachwedd, ar y testun ‘Ffydd, Gobaith a Chariad’ ac roedd gwasanaeth yr hwyr dan ofal Dan ac Eirwen Owen a’r sylwadau a hanes y Beibl yng Nghymru a beth yw’r Ysbryd Glân. Gwyn Hughes oedd yn llywyddu yn y ddau gyfarfod ac Arwyn O Hughes wrth yr organ.
Ymweliad Santa
BYDD Santa yn ddod i Nefyn ar 10 Rhagfyr: Glan Pwll, 6yh6.15yh; Cefn Twr, 6.15yh6.30yh; Parc Nefyn, 6.30yh6.45yh; Stryd Llan, 6.45yh6.55yh; Nant y Felin, 7yh7.15yh; Bro Gwylwyr, 7.15yh7.35yh; Stryd Fawr a Holborn, 7.35yh8yh.Hel arian tuag at Cylch Meithrin Nefyn a Clwb Rotary Pwllheli.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.