Cymanfa Ganu
ELENI, cynhaliwyd Cymanfa Ganu Cylch Eglwysi Cei Newydd yng Nghapel Brynrhiwgaled ar ddydd Sul y Blodau. Dechreuwyd y dydd gyda chy-flwyniad y plant. Athrawon ysgolion Sul Brynrhiwgaled, Pencae a Phisgah fu’n gyfrifol am hyfforddi’r llond côr mawr o blant a ddaeth ynghyd.Diolch iddynt am drosglwyddo negeseuon pwysig i’r plant.Diweddwyd oedfa’r bore gyda’r arweinydd gwadd sef Gareth John. Therapydd cerdd yw e wrth ei al-wedigaeth a dangosodd ei ddawn dysgu trwy gael y plant i ddysgu emyn newydd gan ddefnyddio offerynnau taro ar gyfer y cytgan yn unig.Roedd ambell i damborîn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y penillion yn ogystal!Bore llawn hwyl a diolchwyd yn frwd i’r plant gan lywydd y bore sef John Jones gynt o Gapel Maenygroes, ond sy’n byw yn Birmingham erbyn hyn.Yn ôl yr arfer, cafwyd cyflwyniad gan bobl ifanc yr ardal yn oedfa’r prynhawn o dan ofal llywydd y prynhawn sef Gareth Ioan, Capel Nanternis. Dechreuwyd y cyflwyniad gyda’r côr ifanc yn canu Kwmbayah i gyfeiliant drwm Affricanaidd sef y djembe yn cael ei chwarae gan Gareth.Aethpwyd ymlaen wedyn i drafod ‘Pan ddylen ni fynd i’r cwrdd?’ gan resymu pam nad yw pobl yn mynd i’r capel a pham bod pobl yn mynychu’r capel.Diolch i Lowri Jones, sy’n gweithio gyda Radio Beca, fe recordiwyd oedfa’r prynhawn ac mae modd i bawb wrando ar y cy-flwyniad naill ai trwy fynd i wefan Radio Beca (yna dewis ‘Byd Beca’ yna Be’ Sy’ Mla’n) neu i wefan capelicei.org. Cyfle i bawb, felly, fwynhau’r cyflwyniad graenus hwn.Parhaodd Gareth Ioan i wyn-tyllu mwy ar y pwnc yn ystod ei anerchiad.Yn dilyn hyn, cymerodd Gareth John at yr awenau er mwyn i bawb gyd-ganu cyn troi mewn i’r festri am baned o de a sgwrs.Diolch i aelodau a chyfeillion Capel Brynrhiwgaled am baratoi’r cinio a’r te ac i Gapel Towyn a Chapel y Wern am gynorthwyo. Daeth tyrfa dda ynghyd unwaith eto i oedfa’r hwyr sef y Gymanfa Ganu draddodiadol ac roedd y canu’n adlewyrchu hynny.Yn ei ffordd frwdfrydig llawn hi-wmor fe dynnodd yr arweinydd y gorau allan o’r cantorion a llwyddo i roi gwên ar wynebau.Cafwyd datganiad ganddo hefyd o ‘Anfonaf Angel’. Llywydd y nos oedd y Cyng Bryan Davies, Synod Uchaf ac roedd ganddo neges amserol iawn.Ni fyddai’r un Gymanfa Ganu yn bosib heb organyddion a mawr yw diolch yr eglwysi am wasanaeth Carys Williams, Maenygroes a Neville Evans, Towyn am gyfeilio mor ddeheuig.Carys oedd wrth y llyw yn y bore a Neville yn y prynhawn a’r hwyr. Diolchwyd i bawb gan gadeirydd pwyllgor y Gymanfa Ganu sef Ian Evans, Capel Nanternis a thraddodwyd y fendith gan Gwendoline Evans.Aethpwyd adre yn fodlon gan gofio’r geiriau ‘Pob perchen anadl cenwch gân i’r Arglwydd’.Unwaith eto, noddodd Capeli ar gyfer plant Ysgol Bro Sion Cwilt ac Ysgol Llanarth.Y sioe eleni gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’ oedd hanes Mari Jones yn mynd i’r Bala i nôl ei Beibl.Trwy gyfrwng actio arbennig Ffion Haf (gyda chymorth y plant a rhai athrawon) set a phropiau fe drosglwyddwyd y neges yn glir i’r plant faint o aberth wnaeth Mari Jones i gynilo’r arian a cherdded i’r Bala.Roedd y plant yn synnu bod Beibl yn gallu golygu cymaint i ferch mor ifanc. Fel llynedd, fe gafodd aelodau o gapeli cyfagos y cyfle i fynychu’r sioe hefyd. Diolch i staff yr ysgolion am y croeso.
New Quay and District Society
THE NEXT meeting will be on 18 April at 2pm in the Bowls Club.The Longboat Rowers will talk to the group of their achievements and show film of their training and races.This will be followed by refreshments and the AGM.The committee would value a full attendance as they will be saying a final thank you to Alan as chairman and Pam as caterer.They hope to continue as members and will attend whenever possible.
Eglwysi Annibynol Cylch Cei Newydd
I DDATHLU’R Pasg cynhaliwyd Cymanfa Ganu lwyddiannus yng nghapel Brynrhiwgaled ar Sul y Blodau (gweler adroddiad ar y chwith).Ar Ddydd Gwener y Groglith daeth aelodau o gapeli’r ardal i Neuadd Caerwedros i fyfyrio ar ddigwyddiadau yr Wythnos Sanctaidd cyn cario’r groes o am-gylch yr ardal gan ddychwelyd i’r neuadd am baned a sgwrs.I ddathlu’r atgyfodiad cynhaliwyd oedfa Gymun yng Nghapel Pencae o dan arweiniad Rhys Davies.
Services
SUNDAY, 10 April: 9.30am, Holy Communion, Cross Inn.New Quay: 11am, Holy Communion; 2.30pm, ‘Now the Green Blade Riseth’, an informal celebration of springtime in word and song.Sunday, 17 April: 9.30am, Morning Worship, Cross Inn; 11am, Morning Worship, New Quay; 2.30pm, Holy Communion, Llanina.




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.