CAFODD y carped coch ei osod yng Nghaerdydd neithiwr (19 Tachwedd) ar gyfer dangosiad arbennig o Star Wars: Gobaith Newydd, i ddathlu'r tro cyntaf erioed i Star Wars: A New Hope gael ei addasu i'r Gymraeg.

Bydd y fersiwn Gymraeg, sydd wedi’i gynhyrchu gan Lucasfilm a Disney mewn partneriaeth ag S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn cael ei darlledu ar draws holl lwyfannau S4C ar Ddydd Nadolig.

Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru sydd i’w gweld ar lwyfan rhyngwladol yn arwain y cast lleisiau, gan gynnwys yr enillydd Emmy, Matthew Rhys fel Han Solo, yr enillydd BAFTA Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi, ac Aimee-Ffion Edwards fel Y Dywysoges Leia.

Mae’r actor sy’n gyfarwydd â ffilmio yn Star Wars ac enillydd BAFTA Cymru, Mark Lewis Jones, yn lleisio Darth Vader, tra bod yr actor ifanc, Osian Morgan yn lais i Luke Skywalker.

Ymysg y cast ehangach Cymreig mae Llyr Ifans (C-3PO), Nia Roberts (Modryb Beru), Ioan Hefin (Ewythr Owen), Richard Harrington (Prif Bennaeth Moff Tarkin), Owain Arthur (Arweinydd Coch), Rhodri Meilir (Arweinydd Aur), Richard Elfyn (Cadfridog Tagge) a Steffan Donnelly (Cadfridog Motti).

Cafodd yr addasiad Gymraeg ei chyfarwyddo gan Ellyn Stern a'i chynhyrchu gan Michael Kohn, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dosbarthu yn Lucasfilm.

Dywedodd Lynwen Brennan, Cyd-lywydd Lucasfilm ac sydd yn wreiddiol o Gymru: “Rwy’n falch iawn y bydd Star Wars: Gobaith Newydd yn dod â galaeth bell, bell i ffwrdd yn nes at bobl Cymru, cenedl sydd â thraddodiad cyfoethog o adrodd straeon, ac sydd bellach yn gallu mwynhau A New Hope yn eu mamiaith.

"Fel rhywun a gafodd ei geni a’i magu yng Nghymru, roedd gweld ymateb y gynulleidfa i eiliadau eiconig Star Wars yn cael eu hadrodd yn y Gymraeg yn foment o falchder mawr. P’un ai mai dyma’r tro cyntaf neu’r canfed tro i bobl ei gwylio, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd teuluoedd ledled y wlad yn rhannu’r un teimlad pan fyddant yn tiwnio i mewn i S4C ar Ddydd Nadolig.”

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: “Mae’r dangosiad hwn o Star Wars: Gobaith Newydd yn foment hynod falch i S4C. Mae partneru gydag un o’r masnachfreintiau ffilm fwyaf eiconig a dylanwadol erioed yn fraint aruthrol.

“Mae’n gyfle unigryw i gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd ledled y byd, gan arddangos Cymru a’i doniau creadigol eithriadol ar lwyfan byd-eang. Yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi gwefr i blant Cymraeg eu hiaith glywed rhai o gymeriadau enwocaf y sinema, gan gynnwys Luke Skywalker a’r Dywysoges Leia, yn siarad eu hiaith am y tro cyntaf erioed, gan ddangos bod y Gymraeg yn gallu adrodd unrhyw stori, hyd yn oed y rhai sydd wedi’u lleoli mewn galaeth bell, bell i ffwrdd.”

Ychwanegodd y Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: “Rwy’n falch fod Cymru Greadigol wedi cefnogi’r prosiect cyffrous hwn i helpu i hyrwyddo talent newydd o Gymru a’r Gymraeg. Mae’n gyfle gwych i actorion a staff cynhyrchu Cymreig gydweithio gyda stiwdio fawr o Hollywood.

“Mae gweld un o ffilmiau mwyaf eiconig erioed yn y Gymraeg yn ffordd arbennig o wneud yr iaith yn fwy hygyrch, tra hefyd yn ei chyflwyno i gynulleidfaoedd newydd y tu hwnt i’n gwlad, a hyd yn oed y tu hwnt i’n galaeth!”

I nodi’r achlysur, mae’r darlunydd a dylunydd graffeg o Gaerdydd, Matt Needle, wedi creu poster argraffiad cyfyngedig ar gyfer Star Wars: Gobaith Newydd.

Dywedodd Matt Needle: “Roedd hi’n anrhydedd enfawr cael fy ngwahodd i greu darn ar gyfer y dangosiad hanesyddol hwn o Star Wars: Gobaith Newydd. Rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd o Star Wars ers fy mhlentyndod.

“Rwy’n cofio’r cyffro o fynd i weld Star Wars yn sinema Aberystwyth yn ystod haf 1999. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld ffilm Star Wars ar y sgrin fawr, ac mae’r profiad arbennig wedi aros yn fy nghof. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith ei fod yn cysylltu un o’m hatgofion anwylaf i yn ôl â Chymru.

“Rwy’n gobeithio bod y poster yn cyfleu ymdeimlad o nostalgia, gan ei fod yn cyfuno dyluniad poster modern ag arddull weledol vintage, ac yn adlewyrchu 50 mlynedd o hanes sinematig.”