MAE Achub y Plant Cymru wedi lansio ffilm fer wedi’i hanimeiddio newydd yn y Gymraeg sy’n tynnu sylw at yr effaith gynyddol y mae gwyliau’r haf yn ei chael ar deuluoedd incwm isel.

Daw’r ffilm wrth i arolwg diweddar gan yr elusen ddatgelu bod 89% o rieni yng Nghymru yn teimlo bod gwyliau’r haf yn rhoi pwysau ariannol ac emosiynol sylweddol ar eu teulu.

Mae’r animeiddiad 90-eiliad, a grëwyd gan Alice Bowsher a Plastic Horse, yn adrodd stori plentyn sy’n poeni na fydd ganddo “ddim straeon newydd i’w hadrodd na dillad newydd i’w gwisgo” pan fydd yn dychwelyd i’r ysgol.

Mae’r eliffant sy’n ymddangos yn y ffilm yn symbol o’r realiti sy’n aml yn cael ei anwybyddu: tlodi gwyliau’r haf sy’n effeithio ar filoedd o blant ledled Cymru.

Dywedodd Mel Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, “Mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn cael ei fagu mewn tlodi yr haf hwn.

“Mae’r ffilm yn adlewyrchu profiadau teuluoedd sy’n wynebu tlodi dros wyliau’r haf.

“Ni allwn anwybyddu’r ‘eliffant yn yr ystafell’ mwyach.”

Roedd un o bob pedwar rhiant (25%) yn dweud y byddan nhw’n cael trafferth prynu danteithion syml, fel hufen iâ, a dywedodd un o bob pump y byddai prynu hanfodion fel eli haul a hetiau yn anodd.

Dim ond un o bob pedwar (26%) oedd yn bendant y gallan nhw ddarparu’r un profiad gwyliau’r haf i’w plant â’r hyn a gawson nhw pan oedden nhw’n yn iau.

Ychwanegodd Mel: “Rydyn ni’n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnal cynllun peilot ar gyfer Cynnal – taliad wythnosol o £10 i blant ifanc mewn teuluoedd incwm isel – fel cam cyntaf tuag at Daliad Plant Cymru ar raddfa lawn."

Mae Achub y Plant yn darparu grantiau ariannol a chyngor ymarferol i rieni, yn ogystal ag adnoddau ar-lein i helpu teuluoedd i lywio cyfnodau heriol pan fo’r ysgol ar gau.