Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r wyth o athrawon newydd eu cymhwyso - a’r pum ysgol ledled Cymru lle maent yn dysgu - fydd yn destun y gyfres newydd pry-ar-y-wal Athrawon.

Mi fydd y gyfres, sy’n gynhyrchiad Carlam ar gyfer S4C, yn dilyn hynt a helynt yr wyth dros flwyddyn gyntaf eu gyrfaoedd;

Cai Fôn Davies, athro Cymraeg a Drama ac Alisa MacCallum-Williams, Athrawes Decstiliau, Bwyd a Maeth yn Ysgol y Creuddyn, Conwy;

Siôn-Rhys Evans, athro Cemeg yn Ysgol Llanhari, Pontyclun;

Jeanne Audren de Kerdrel, Llydawes sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd bellach yn athrawes Ffrangeg a Sbaeneg, Lowri Whitrow, Athrawes Gymraeg ac Alex Williams, sy’n dysgu Gwyddoniaeth yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Port Talbot;

Aimee Woolley, athrawes Fathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd;

a Meirin Oan Evans, athro Ffiseg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili.

Dros pum pennod awr o hyd, mi fydd Athrawon yn cynnig mewnwelediad i’r ystafell ddosbarth wrth i’r newydd-ddyfodiaid ddygymod â’u dyletswyddau, yn ogystal â darlun gonest o’r sefyllfa sy’n wynebu ysgolion heddiw.

Meddai’r athrawon:

Cai Fôn
Cai Fôn (S4C)

Cai Fôn Davies, athro Cymraeg a Drama, Ysgol y Creuddyn, Conwy: “Mae bod yn rhan o Athrawon – a chael y cyfle i rannu realiti bywyd ysgol o safbwynt athro newydd – wedi bod yn brofiad a hanner. Roedd cael camerâu yn ffilmio fy ngwersi ac yn fy nilyn i o gwmpas yr ysgol yn sicr yn brofiad swreal! Er hynny, rydw i wedi mwynhau’n arw, a hoffwn i ddiolch i bawb yn Ysgol y Creuddyn sydd wedi fy nghefnogi a fy nghynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Dw i’n gobeithio y gwylwyr weld, o'r rhaglen hon, yr heriau a'r llwyddiannau mae rhywun yn eu gwynebu ac yn eu profi ym myd addysg ar hyn o bryd. Wna i ddim anghofio fy mlwyddyn gyntaf yn dysgu, mae hynny’n sicr!”

Sion Rhys Evans
Sion Rhys Evans (S4C)

Siôn-Rhys Evans, athro Cemeg yn Ysgol Llanhari, Pontyclun: “Dwi wrth fy modd fel athro – a dwi mor falch ’mod i wedi newid proffesiwn a throi at y byd addysg! Mae’n brysur, yn flinedig ac yn heriol ar adegau, ond mae’r chwerthin, yr amrywiaeth a’r boddhad o weld disgyblion yn datblygu ac yn llwyddo yn gwneud y cyfan werth chweil. Gyda chymaint o angen am fwy o athrawon gwyddoniaeth yng Nghymru, gobeithio bydd y gyfres yn dangos pa mor gyffrous yw’r swydd ac yn ysbrydoli eraill i droi at y sector addysg.”

Jeanne Audren de Kerdrel
Jeanne Audren de Kerdrel (S4C)

Jeanne Audren de Kerdrel, athrawes Ffrangeg a Sbaeneg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Port Talbot: "Mae ieithoedd yn dod â phobl yn agosach at ei gilydd. Ac mae gan blant allu naturiol ar gyfer hynny oherwydd eu plastigedd ymennydd. Yn fy marn i, mae dod ag iaith i'r ystafell ddosbarth yn gynnar mewn bywyd yn cynyddu cyfleoedd disgyblion i ddatblygu eu sgiliau bywyd a chael cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, sef fy mhrif flaenoriaeth fel athrawes."

Alisa MacCallum-Williams, athrawes Decstiliau, Bwyd a Maeth yn Ysgol y Creuddyn, Conwy: “Mae fy mlwyddyn gyntaf fel athrawes wedi bod yn brysur, yn heriol ond yn hynod werth chweil. Un o’r pethau dwi wedi’i fwynhau fwyaf yw gweld disgyblion yn magu hyder, datblygu eu sgiliau a bod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Does dim byd gwell na gweld disgybl yn llwyddo mewn rhywbeth roedden nhw’n meddwl na allen nhw ei wneud. Mae pob diwrnod yn wahanol, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ddatblygu fel athrawes a gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc.”

Aimee Woolley
Aimee Woolley (S4C)

Aimee Woolley, athrawes Fathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd: “Mae’r flwyddyn gyntaf fel athro wedi bod yn un cofiadwy iawn i mi fel rhywun sydd wedi dod mewn i’r gyrfa’n hwyrach na’r rhan fwyaf. Dwi wir wedi joio gweld y cynnydd mewn dealltwriaeth a hyder y dysgwyr ac er bod heriau’n dod gyda’r swydd mae e wir werth yr oriau hir i gweld y ddatblygiad yma. Mae yna galw mawr am fwy o athrawon mathemateg cyfrwng Cymraeg felly dwi’n gobeithio’n fawr y bydd y rhaglen yma’n helpu i ddenu mwy o bobl i ystyried yr yrfa yma.”

Meirin Oan Evans
Meirin Oan Evans (S4C)

Meirin Oan Evans, athro Ffiseg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili: “Sai’n meddwl baswn i hapusach yn neud unrhywbeth arall. Roeddwn i moyn bod yn athro ers bod yn 14 oed, ond roedd gwahanol pobl yn argymell fi i neud pethau gwahanol. Hanner bywyd yn hwyrach, dwi mor hapus fy mod i wedi penderfynu dod yn athro. Mae’n teimlo fel fy pedwerydd gyrfa, ond yn sicr yr un gorau i mi.”

Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C: “Mae'r gyfres Athrawon yn ddarlun gonest o sut brofiad yw camu mewn i'r byd addysg yng Nghymru heddiw. Mae'n dangos yr heriau a'r hiwmor, y balchder a'r boddhad sy'n wynebu ein athrawon newydd yn 2026.

“Diolch i'r ysgolion am agor eu drysau a chynnig mewnwelediad i'r dosbarthiadau. Rwy'n hyderus y bydd y gynulleidfa yn chwerthin a chrio wrth weld ymroddiad ein hathrawon newydd.”

Mi fydd Athrawon, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn cychwyn ar nos Fercher 9 Medi, i gyd-fynd â dechrau’r flwyddyn ysgol newydd.