MAE Tomos y Tanc a’i Ffrindiau, gan Mattel, yn mynd i fod ar flaen y traciau eleni yn helpu Achub y Plant i hyrwyddo eu Diwrnod Siwmper Nadolig a gynhelir eleni ar ddydd Iau, 10fed o Ragfyr.

I ddathu’r ffaith mai Tomos yw’r trên stêm cyntaf erioed i gefnogi Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant mae’r elusen a Mattel wedi lansio cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd sy’n cymryd rhan yn Niwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant.

Bydd yr ysgolion buddugol yn cael cyfle i deithio ar drên stêm Tomos y Tanc, mynd ar reidiau Tomos yn Thomas Land neu gael gweithdy rhyngweithiol gan ddylunydd o gwmni Mattel yn eu hysgol.

Mae Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant wedi ei gynnal ers 2012, gyda’r prif nod o annog pobl a phlant i wisgo siwmper Nadolig ar ddyddiad penodol, tra’n rhoi cyfraniad i’r elusen.

Mae’r elusen wedi codi dros £42 miliwn ers lansio’r diwrnod 14 mlynedd yn ôl.

Bydd meithrinfeydd ac ysgolion sy’n cofrestru erbyn Dydd Mawrth 1 Rhagfyr yn cael cyfle i ennill:

  • Ysgol Feithrin – Taith ar drên stêm Tomas y Tanc ar gyfer un dosbarth o hyd at 30 o blant, ynghyd ag uchafswm o 4 athro/chaperon (Day out With Thomas)
  • Ysgon Gynradd – Diwrnod i un dosbarth cynradd yn Drayton Manor Resort, cartref Thomas Land, gyda mynediad i dros 50 o reidiau ac atyniadau.
  • Uwchradd – Gweithdy rhyngweithiol yn yr ysgol sy’n canolbwyntio ar STEM gyda dylunydd o Mattel.

Bydd pob ysgol sy’n cofrestru yn derbyn pecyn codi arian am ddim gyda chynlluniau gwersi, gweithgareddau Nadoligaidd a’r holl wybodaeth sydd ei angen i gynllunio gweithgareddau yn yr ysgol. Byddant hefyd gyda siawns o ennill un o’r gwobrau uchod.

Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Gyda Tomos y Tanc yn ymuno â’r ymgyrch eleni, rydym yn gobeithio y bydd mwy o blant nag erioed yn cofrestru a chymryd rhan.

“Trwy lansio cystadleuaeth unigryw ar gyfer pawb sy’n cofrestru, mae ein partner anhygoel Mattel yn ein helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd ar gyfer y Nadolig. Po fwyaf o arian a godwn, y mwyaf o effaith y gallwn ei gael ar fywydau’r plant sydd ei angen fwyaf.”

Ychwanegodd Nancy Molenda, Is‑lywydd Digwyddiadau Corfforaethol Byd‑eang a Chymunedol Mattel: “Am genedlaethau, mae Tomos a’i Ffrindiau wedi ysbrydoli plant drwy straeon am gyfeillgarwch, gwaith tîm a helpu eraill, felly rydym yn falch iawn o gefnogi Diwrnod Siwmper Nadolig eleni.

“Wrth i Thomas ymgymryd â’i rôl newydd fel Prif Swyddog Dosbarthu, rydym yn gyffrous i helpu i ddod â mwy o ysgolion, meithrinfeydd a theuluoedd at ei gilydd ar gyfer diwrnod o hwyl Nadoligaidd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i blant sydd ei angen fwyaf – gan gadw’r ymgyrch ar y trac cywir.”

Cofrestrwch nawr ar ChristmasJumperDay.org